Ewch i’r prif gynnwys

Yr Ysgol Cerddoriaeth ymhlith y 10 adran Cerddoriaeth orau yn y DU

13 Hydref 2020

Piano being played

Mae’r Ysgol Cerddoriaeth wedi dal ei safle ymhlith y 10 adran Cerddoriaeth orau yn y DU yn ôl y Times Good University Guide 2021 am y bumed flwyddyn yn olynol.

Perfformiodd yr Ysgol yn rhagorol am brofiad y myfyrwyr, gan ennill y pedwerydd sgôr uchaf yn y DU, ac wedi dal ei safle ymhlith y deg gorau am ansawdd ei haddysgu.

Perfformiodd Prifysgol Caerdydd yn dda hefyd, gan gadw ei safle fel 34ain yn y DU a chael ei henwi fel prifysgol orau Cymru.

Dros y misoedd diwethaf, symudodd yr Ysgol i fyny’r safleoedd yn ôl The Guardian University Guide, i’r 15fed safle.

Hefyd, gwnaeth ymroddiad i gynnal ansawdd profiad y myfyrwyr, er gwaethaf ansicrwydd a tharfu dros y misoedd diwethaf, arwain at yr Ysgol yn cael cyfradd foddhad o 92% ar y cyfan yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr y flwyddyn hon.

Wrth sôn am ganlyniadau eleni, dywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: “Mae cael safle ymhlith y 10 adran Cerddoriaeth orau yn y DU wastad yn gydnabyddiaeth i’w chroesawu, am y gwaith caled yr ydym yn ei wneud yn yr Ysgol. Mae hyn yn fwy gwir fyth o ystyried yr anawsterau yr ydym wedi’u hwynebu’r flwyddyn hon. Rydym yn gobeithio parhau i gynnal ein lefel ardderchog o foddhad myfyrwyr a thrwy lwc byddwn yn parhau i ddal ein safle rhagorol y flwyddyn nesaf.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.