Ewch i’r prif gynnwys

Yn y 10 uchaf o ran adrannau Cerddoriaeth y DU

23 Mehefin 2020

Woman's arms playing flute

Mae'r Ysgol Cerddoriaeth ymhlith 10 adran Cerddoriaeth orau'r DU, yn ôl y Complete University Guide.

Daw'r canlyniad hwn ar ôl cynnydd parhaus yn y sgôr mewn blynyddoedd diweddar, diolch i waith rhagorol ein staff a'n myfyrwyr.

Ymhlith ein llwyddiannau eraill, roeddem yn falch iawn o glywed ein bod wedi cyrraedd y 6ed safle ymhlith adrannau Cerddoriaeth y DU oherwydd sgôr bodlonrwydd ein myfyrwyr. Yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2019, roedd sgôr boddhad cyffredinol ein myfyrwyr yn 96%.

Mae’r Complete University Guide yn rhestru dros 130 o brifysgolion y DU ar sail safonau mynediad, boddhad myfyrwyr, ansawdd gwaith ymchwil a rhagolygon i raddedigion ac mae nifer fawr o ymgeiswyr i brifysgolion yn ei ddefnyddio i helpu i benderfynu.

Dywedodd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth: "Rydym wastad yn falch o gael cydnabyddiaeth am ein hymrwymiad i ragoriaeth a rhoi'r profiad gorau posibl i’n myfyrwyr.

Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig i ni dros y misoedd diweddar yn ystod argyfwng Covid-19, gyda'r holl waith addysgu yn symud ar-lein. Diolch byth, oherwydd gwaith caled ac arloesedd cyflym ein staff, rydym wedi gallu rhoi ystod eang o adnoddau a gweithgareddau dysgu ar-lein i'n myfyrwyr, gan gynnwys fideos, seminarau grŵp ar-lein a gwersi offerynnol, goruchwyliaeth traethodau hir unigol a chefnogaeth tiwtoriaid personol.

Yr Athro Kenneth Hamilton Head of School of Music, Senior University Dean for International Partnerships

"Rydym yn gobeithio parhau i gynnal ein lefel ardderchog o foddhad myfyrwyr a thrwy lwc byddwn yn parhau i weld cynnydd pellach yn y sgôr y flwyddyn nesaf."

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.