Ewch i’r prif gynnwys

Y Brifysgol Orau yng Nghymru

18 Medi 2020

Main Building_BlueSky_GreenGrass

Prifysgol Caerdydd yn swyddogol yw prifysgol orau Cymru yn ôl Good University Guide 2021 The Times a The Sunday Times.

Er bod Caerdydd wedi aros yn yr un safle ar draws y DU (34ain), mae newidiadau arall yn golygu ei bod wedi dod i'r brig.

Meddai Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi adennill ein statws fel prifysgol orau Cymru yn Good University Guide 2021 The Times a The Sunday Times.

"Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi sicrhau ein lle fel y brifysgol orau yng Nghymru unwaith eto yn ôl The Complete University Guide 2021, ac wedi gweld cynnydd bychan ond pwysig ar Restr Times Higher Education o Brifysgolion Gorau'r Byd (191ain yn y byd) a Good University Guide y Guardian (37ain yn y DU) - sy'n cynnwys bod y gorau yng Nghymru o ran rhagolygon gyrfa.

"Heb os, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un o'r rhai mwyaf heriol i staff a fyfyrwyr - ac mae'n parhau i fod yn heriol.

"Mae gweld perfformiad a gwelliannau parhaus yn deyrnged i ymrwymiad ac arbenigedd ein staff, ac mae'n golygu ein bod ni'n parhau i symud i’r cyfeiriad cywir.

"Fodd bynnag, nid ydym yn llaesu dwylo. Gwyddwn fod gennym waith i'w wneud, ac rydym yn awyddus i sicrhau gwelliannau. Byddwn yn parhau i weithio gyda chymuned y staff a’r myfyrwyr i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth posibl i gyflwyno'r deilliannau dysgu ac addysgu gorau i bawb."

Mae Good University Guide The Times a The Sunday Times yn cynnwys naw dangosydd gan gynnwys bodlonrwydd myfyrwyr ar ansawdd addysgu a'r profiad myfyrwyr ehangach, ansawdd ymchwil, rhagolygon i raddedigion, cymwysterau mynediad i fyfyrwyr newydd, canlyniadau graddau, cymarebau myfyrwyr/staff, gwariant ar wasanaethau a chyfleusterau, a chyfraddau cwblhau graddau.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn cael dylanwad economaidd a chymdeithasol sylweddol ar Gymru a’r DU, ac rydym yn cyfrannu ym meysydd cyflogaeth, ariannu ymchwil a gweithgareddau dysgu ac addysgu.