Complete University Guide 2021
25 Mehefin 2020
Prifysgol Caerdydd yw'r brifysgol orau yng Nghymru o hyd, yn ôl y rhestr ddiweddaraf gan y Complete University Guide 2021.
Mae'r Guide yn rhestru prifysgolion y DU yn genedlaethol ac mewn 70 o feysydd pwnc gwahanol, gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fesurau gan gynnwys profiad myfyrwyr a pherfformiad academaidd.
Mae Prifysgol Caerdydd yn y 30ain safle yn rhestr y canllaw gan ddod ar y brig yng Nghymru am bump mesur: Safonau Mynediad, Ansawdd Gwaith Ymchwil, Cymhareb Staff-Myfyrwyr, Gradd Anrhydedd Dda a Chwblhau Graddau.
Cododd safle'r Brifysgol yn y canllaw ar gyfer addysg (gan godi 11 safle i'r 34ain safle), nyrsio (gan godi 9 safle i'r 3ydd safle), cemeg (gan godi 6 safle i'r 20fed safle), a chymdeithaseg (gan godi 5 safle i'r 25ain safle).
Gwnaeth 13 o bynciau'r Brifysgol lwyddo i gael yn y 10 safle uchaf gydag wyth pwnc yn cyrraedd y pump uchaf, gan gynnwys therapi galwedigaethol (safle 1af), astudiaethau celtaidd (2il safle), nyrsio, ffisiotherapi, optometreg, offthalmoleg ac orthopteg (pob un yn y 3ydd safle), technoleg feddygol (yn y 4ydd safle), cyfathrebu ac astudiaethau’r cyfryngau, a deintyddiaeth (y ddau yn y 5ed safle).
Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Rwy'n falch ein bod wedi cadw ein statws fel y brifysgol orau yng Nghymru. Mae ein perfformiad cyson yn ogystal â gwelliannau mewn sawl maes pwnc yn dangos ymrwymiad ac arbenigedd ein staff.
“Fodd bynnag, tra ei fod yn bwysig i ni ddeall sut rydym yn cymharu â thablau cynghrair, nid ydym yn caniatáu i ni ein hunain gael ein dylanwadu ganddynt."