Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil yn awgrymu bod Prydeinwyr yn gobeithio cadw arferion cynaliadwy y tu hwnt i gyfnod clo Covid-19

12 August 2020

People shopping at farmers market

Mae pobl Prydain yn awyddus i barhau gyda dewisiadau ffordd o fyw carbon isel a fabwysiadwyd yn ystod y cyfnod clo yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Manceinion.

Yn ôl dau arolwg eang a gynhaliwyd gan Ganolfan Hinsawdd a Thrawsffurfio Cymdeithasol y DU (CAST) a gydlynir gan Brifysgol Caerdydd, mae'r cyfnod clo wedi trawsnewid arferion pobl, o brynu a theithio llai, i ostwng y defnydd o ynni a lleihau gwastraff bwyd.

Un peth arbennig o drawiadol oedd bwriad pobl i hedfan llai ar wyliau a'r cynnydd mawr yn y gefnogaeth i gyfyngu hedfan er mwyn ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd, yn ôl yr ymchwilwyr.

Fe'u synnwyd hefyd bod y lefel o bryder cyhoeddus am newid yn yr hinsawdd wedi cynyddu - yn hytrach na lleihau – yn ystod y pandemig byd-eang.

Dywedodd yr ymchwilwyr fod y canlyniadau'n awgrymu bod y cyfnod clo wedi aflonyddu ar arferion pobl ac maen nhw'n annog llunwyr polisïau i gydio yn y 'foment unigryw hon o newid'.

Cynhaliwyd y ddau arolwg, a eglurir heddiw mewn papur briffio gan CAST, yn ystod y cyfnod clo ym mis Mai gyda thros 1,800 o ymatebwyr.

Dywedodd yr Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr CAST: "Mae ein harolygon yn dangos bod y cyfnod clo wedi cynnig cyfleoedd i'r cyhoedd roi cynnig ar ymddygiad carbon isel - fel gweithio a chymdeithasu ar-lein, treulio mwy o amser ar ddiddordebau creadigol a garddio, prynu llai, a lleihau gwastraff bwyd - ac mae llawer yn awyddus i barhau â'r ymddygiad hwn pan gaiff y cyfyngiadau eu codi.

"Un peth arbennig o drawiadol - o ystyried bod awyrennau'n cyfrannu'n sylweddol ac yn gynyddol at newid yn yr hinsawdd - yw'r awydd i leihau hedfan ar wyliau a'r cynnydd mawr yn y gefnogaeth i gyfyngu ar hedfan i ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd.

Mae ein hastudiaethau'n cyd-fynd ag ymchwil arall sy'n dangos bod y cyhoedd yn cefnogi adferiad gwyrdd o Covid-19, gan amlygu bod angen i lunwyr polisïau weithredu nawr i sefydlu'r trefniadau carbon isel mae pobl wedi'u mabwysiadu yn ystod y cyfnod clo er mwyn i bobl osgoi llithro'n ôl i'w hen arferion carbon uchel.

Professor Lorraine Whitmarsh

Canfu'r ymchwil, y gyntaf i dynnu effaith y pandemig ar ffyrdd o fyw ac agweddau at newid yn yr hinsawdd at ei gilydd:

  • Bod mwy o bobl yn bwriadu lleihau faint maen nhw'n hedfan ar wyliau neu hamdden ar ôl y cyfnod clo (47%), nag sy'n bwriadu ei gynyddu (8.3%), neu fynd yn ôl i'r lefelau cyn y cyfnod clo (45%);
  • Bod y mwyafrif o bobl yn bwriadu defnyddio llai o drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl y cyfnod clo (52%) na chyn hynny, gyda 4.9% yn unig yn bwriadu cynyddu eu defnydd;
  • Bod siopa ar-lein wedi mwy na dyblu o 12% i 25% yn ystod y cyfnod clo;
  • Adroddwyd lleihad nodedig mewn gwastraff bwyd (92% i 84%) a chafwyd cynnydd hefyd mewn arferion lleihau gwastraff fel cynllunio prydau, rhewi a chadw bwyd;
  • Gwariodd cyfranogwyr lai yn ystod y cyfnod clo, gyda'r lleihad mwyaf trawiadol o ran gwario ar ddillad ac esgidiau (gwariodd 63% ddim byd ar ddillad/esgidiau yn ystod Mawrth-Mai, i fyny o 9% a wariodd ddim byd yn y tri mis cyn y cyfnod hwn);
  • O ran defnyddio ynni, dywedodd cyfranogwyr eu bod yn fwy tebygol o ddiffodd goleuadau a dyfeisiau nad oedd yn cael eu defnyddio (27% i fyny o 21% cyn y cyfnod clo yn dweud eu bod yn gwneud hyn 'bob amser’) a gwresogi eu tai ar dymheredd is o'i gymharu â'r cyfnod blaenorol (36% o'i gymharu â 47% cyn y cyfnod clo'n gwresogi eu tai ar ddyddiau oer ar 20C o leiaf)

Dywedodd yr ymchwilwyr eu bod wedi disgwyl gweld lleihad yn y pryder am yr hinsawdd am fod pryderon am un mater mawr yn gallu lleihau pryder dros faterion eraill; er enghraifft yn sgil argyfwng ariannol 2008 cafwyd gostyngiad dramatig yn y gred mewn newid yn yr hinsawdd.

Ond canfu'r ymchwil hon y gwrthwyneb - fod y canfyddiad o frys i ddelio â newid yn yr hinsawdd yn uwch yn ystod y pandemig nag ym mis Awst y llynedd (74% i fyny o 62% yn ei ystyried yn fater o frys 'uchel iawn' neu 'uchel'). Yn wir, dim ond ychydig yn uwch oedd y pryder am Covid-19 nag am newid yn yr hinsawdd (90% o'i gymharu â 82%, llawer uwch na phryderon eraill, yn cynnwys Brexit ar 57%).

Ymhellach, roedd cefnogaeth i bolisïau i leddfu'r newid yn yr hinsawdd, yn cynnwys mesurau i leihau cymeriant cig a hedfan, yn uwch yn ystod y pandemig (67% a 85%, yn eu tro) nag yn 2019 (53% a 67%, yn eu tro).

Dywedodd Dr Claire Hoolohan, Cymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Manceinion: "Covid-19 o bosibl yw'r aflonyddwch mwyaf i ffordd o fyw ers cyn cof, ac mae'r mesurau a osodwyd i ymateb i'r pandemig wedi effeithio'n sylfaenol ar sut mae pobl yn byw, gweithio, cymdeithasu a gofalu am ei gilydd. Mae hyn wedi rhoi'r cyfle i ni edrych ar ganlyniadau amharu, er enghraifft, dileu ymrwymiadau amser fel mynd â'r plant i'r ysgol ac oriau gwaith arferol.

"Mae ein canfyddiadau'n dangos bod ailstrwythuro bywyd bob dydd ers cyflwyno'r cyfnod clo wedi caniatáu i arferion carbon isel gydio. Ond mae profiadau pobl wedi amrywio'n fawr iawn. Er bod ein hymchwil wedi canfod bod llawer o bobl yn mwynhau elfennau o'r cyfnod clo, canfuom ni hefyd fod eraill yn profi teimladau o straen ac euogrwydd wrth geisio cydbwyso cyfrifoldebau gofalu a gwaith.

"Y cwestiwn sy'n wynebu cymdeithas nawr yw sut ydym ni'n ymadfer o Covid-19 mewn ffordd sy'n golygu bod cymdeithas yn iachach, yn fwy hapus a chynaliadwy nag o'r blaen. Mae hon yn her y mae'n rhaid i lunwyr polisïau, busnesau a sefydliadau eraill ei hwynebu os ydym ni am ymrwymo i ffyrdd carbon isel o fyw."

Bydd yr ymchwilwyr yn cynnal arolygon dilynol pan fydd y cyfnod clo wedi'i godi’n llwyr er mwyn deall yr effeithiau tymor hir.