Ewch i’r prif gynnwys

Peirianwyr yn ceisio gwella cyfleusterau storio CO2 mewn cronfeydd glo wrth gefn

21 July 2020

Chimney stacks stock image

Mae peirianwyr Prifysgol Caerdydd yn arwain prosiect ledled Ewrop fydd yn edrych ar ba mor ddichonol yw gwella cyfleusterau storio carbon deuocsid (CO2) semau glo.

Bydd technoleg o'r radd flaenaf yn cael ei defnyddio i greu 'system ffynnon' lorweddol mewn cyfleusterau ymchwil arbenigol ym Mikołów, Gwlad Pwyl. Bydd hyn yn galluogi peirianwyr i fonitro cyfraddau'r CO2 yn y semau glo, yn ogystal ag asesu a rheoli'r risgiau amgylcheddol.

Bydd y system ffynnon lorweddol yn cael ei gosod oddeutu 50 metr o dan yr wyneb yn y cyfleuster, gan alluogi'r tîm i bwmpio rhwng 1 a 10 tunnell o CO2 i mewn i'r semau glo drwy gydol cyfnod y prosiect.

Ar ôl ei chwistrellu, bydd y CO2 yn cael ei storio yn y matrics glo am gyfnod hir o amser, drwy broses a elwir yn 'arsugniad ffisegol'.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd wedi astudio mewn cryn fanylder y broses o storio CO2 mewn gwelyau glo dwfn.

Credir ei fod yn opsiwn hyfyw ategu'r gwaith o leddfu allyriadau CO2, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n llawn dyddodion glo, a lle mae opsiynau storio eraill, megis dyfrhaenau halwynog a hen ffynhonnau olew, un ai ddim ar gael neu'n anymarferol.

Bydd yr arbrofion yn cael eu cynnal ym Mhwll Glo Arbrofol "Barbara", yr unig gyfleuster ymchwil yn Ewrop sydd â'r gallu i chwistrellu CO2 i mewn i semau glo gan ddefnyddio'r techneg arfaethedig mewn amodau dan y ddaear gwirioneddol.

Mae'r prosiect tair blynedd wedi derbyn dros €2m o gyllid gan raglen Cronfa Ymchwil yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer Glo a Dur (RFCS), a bydd yn dod ag academyddion o Gymru, yr Almaen a Gwlad Pwyl ynghyd.

FLEXIS (Flexible Integrated Energy Systems) fydd yn arwain y prosiect. Rhaglen ymchwil gydweithredol gwerth £24m yw FLEXIS sy'n cynnwys prifysgolion Caerdydd, Abertawe a De Cymru.

"Mae'r prosiect hwn yn gyfle gwych i fynd â'n hymchwil o'r labordy i safle profi arddangos ar raddfa lawn," meddai Prif Archwiliwr y prosiect, yr Athro Hywel Thomas o Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd.

Mae rhwydwaith presennol y twneli tanddaearol yn y Pwll Glo Arbrofol yn rhoi mynediad rhwydd at y semau glo pwrpasol, gan olygu nad oes angen drilio'n fertigol. Mae hefyd yn addas iawn gyda system o biblinellau sy'n galluogi cyflenwad uniongyrchol a diogel o nwy i fan gweithio'r dyddodion glo.

Hywel Thomas Professor

Nod y profion ar y safle fydd goresgyn unrhyw gyfyngiadau ymarferol a chynyddu cyfanswm y nwy sy'n cael ei storio mewn cronfeydd glo wrth gefn, yn ogystal â chynnal dadansoddiad cost cynhwysfawr ac asesiad risg amgylcheddol.

Bydd y tîm hefyd yn dewis safle masnachol posibl ar raddfa fawr ar gyfer gweithredu'r dechnoleg sy'n cydymffurfio â Chyfarwyddyd Stori a Gwrthbwyso Carbon (CCS) yr UE.

"Ein nod cyffredinol yw edrych ar effeithiolrwydd system chwistrellu newydd er mwyn gwella cyfradd chwistrellu a storio CO2 fydd, yn y pen draw, yn arwain at arferion gorau newydd at ddefnydd masnachol," dywedodd yr Athro Thomas.

"Gan fod llawer o ranbarthau Ewrop yn meddu ar ddyddodion glo cyfoethog a sylweddol, gall partneriaethau fel hyn chwarae rhan hanfodol o ran bodloni targedau gostwng allyriadau carbon yr UE."

Bydd y prosiect hwn, o'r enw 'Pennu Arsyllfa Ymchwil i ddatgloi semau glo Ewrop er mwyn storio Carbon Deuocsid' (ROCCS), ar waith am dair blynedd ac yn dechrau ar 1 Medi 2020.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.