Ewch i’r prif gynnwys

Cyrraedd uchafbwynt ‘Cartref Arloesedd’

7 Gorffennaf 2020

SPARK life drone image

Prifysgol Caerdydd a Bouygues UK yn cwblhau strwythur canolfan flaenllaw lle bydd syniadau’n sbarduno arloesedd.

Mae sbarc | spark – #CartrefArloesedd Caerdydd – yn dod ag ymchwilwyr, entrepreneuriaid, busnesau newydd gan fyfyrwyr a chwmnïau deillio at ei gilydd mewn adeilad o’r radd flaenaf yng nghanol Campws Arloesedd Caerdydd.

Mae mwy na 70% o gontractwyr a gweithwyr llafur y safle yn lleol, sy’n dwyn buddion economaidd i Gymru yn ystod y cam adeiladu.

Mae’r hyb, sy’n cynnwys unedau masnachol, canolfan ddelweddu, awditoriwm a labordy saernïo, yn cynnig rhywle lle gall Cymru feithrin a datblygu syniadau mawr y dyfodol wrth i’r DU ffynnu o'r newydd ar ôl pandemig COVID-19, a cheir man penodol i fyfyrwyr sy’n entrepreneuriaid yno.

Dyma’r cyfleuster arloesedd mwyaf o’i fath yng Nghymru, sy’n ymestyn dros 12,000 metr sgwâr ar draws chwe llawr, a cheir unedau masnachol a labordai ar gyfer cwmnïau deillio a busnesau newydd.

Bydd academyddion arbenigol o 11 o grwpiau ymchwil ym meysydd y gwyddorau cymdeithasol – a elwir gyda'i gilydd yn SPARK – yn rhannu mannau gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i greu, i brofi ac i feithrin syniadau newydd a all helpu i greu cymdeithas well.

Yn ôl yr Athro Colin Riordan, Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae ein buddsoddiad ymroddedig yn sbarc | spark yn dod â gobaith o sbarduno ffyrdd newydd o weithio a all helpu Cymru i ffynnu o’r newydd wrth i’r cyfyngiadau symud lacio. Trwy weithio gyda Bouygues UK, rydym wedi gallu cynnig rhywle lle gall cydweithwyr, arianwyr, entrepreneuriaid busnes a mentrau a arweinir gan fyfyrwyr ffynnu, gan helpu Cymru i ddod i’r golwg o’r dirywiad cymdeithasol economaidd a fydd yn effeithio ar fywydau pob un ohonom.”

Mae SPARK wedi ymrwymo i astudio sut mae cymdeithas yn gweithio, ac mae ein grwpiau aelodau yn mynd i’r afael â materion sy’n amrywio o iechyd y cyhoedd a throsedd i dlodi a newid yn yr hinsawdd.” Ni fu cysyniad o Barc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol – y cyntaf yn y byd i Gymru – erioed mor berthnasol.

Yr Athro Chris Taylor Professor

Mae’r Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn goruchwylio darpariaeth sbarc | spark.

“Dathlwyd cwblhau strwythur adeilad sbarc | spark mewn modd priodol – o bell o angenrheidrwydd, ond gyda ffanffer briodol o amgylch yr hyn yr oedd pob trawst, bollt a phanel bob amser i fod i’w alluogi: ymchwilwyr a myfyrwyr Caerdydd, a’n partneriaid allanol, yn dwyn buddion cymdeithasol ac economaidd sy'n newid bywyd – sydd eu hangen nawr yn fwy nag erioed.”

Yn y pen draw, bydd 800 o bobl yn gweithio yn sbarc | spark. Mae’r adeilad, a ddyluniwyd gan y penseiri arobryn Hawkins\Brown, y mae disgwyl ei gwblhau y flwyddyn mesaf, ger  hybiau arbenigol eraill gan gynnwys y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol (cael ei adeiladu ar hyn o bryd) a Chanolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd, Prifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â dwyn buddion economaidd a chymdeithasol i Gymru yn y dyfodol, crëwyd swyddi adeiladu ac yn y gadwyn gyflenwi yn sgil adeiladu cam diweddaraf y Campws. Hyd yn hyn, mae mwy na 1,000 o bobl wedi’u cofrestru i weithio ar y safle.

Meddai Rob Bradley, Prif Swyddog Gweithredol Bouygues UK: “Mae sbarduno arloesedd yn flaenoriaeth allweddol i’r grŵp, felly rydym yn falch iawn o gyrraedd y garreg filltir hon ar adeilad sydd wedi’i ddylunio i annog arloesedd a chydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol tebyg o ystod amrywiol o gefndiroedd.

Rydym wedi ceisio cyfrannu’n gadarnhaol at economi Cymru yn ystod ein gwaith i Brifysgol Caerdydd, a hyd yn hyn, rydym wedi caffael 74% o’n contractwyr o Gymru, sydd gyda’r llafur yn cyrraedd cyfanswm o 71%.

Rob Bradley

Bydd yr adeilad yn dwyn buddion i’r gymuned leol. Mae’r llawr gwaelod ar agor i’r cyhoedd gyda chaffi, awditoriwm hyblyg ar gyfer digwyddiadau tebyg i TEDx a grisiau agored – yr ‘Oculus’ – a luniwyd i annog cydweithio a digwyddiadau cymdeithasol yn yr adeilad.

Mae Prifysgol Caerdydd, sy’n aelod o Grŵp Russell, wedi arbenigo mewn troi ymchwil yn gymwysiadau yn y byd go iawn ers dros 125 mlynedd. Cynhyrchodd y Brifysgol fwy na 73% o incwm Eiddo Deallusol (IP) ymysg sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru’r llynedd, gan weithio gyda channoedd o sefydliadau rhyngwladol a chenedlaethol ar draws pob sector i greu ffyniant cymdeithasol ac economaidd.

https://www.youtube.com/watch?v=YVQxnqh4_Y8&feature=youtu.be

Rhannu’r stori hon

Bydd ein cynllun datblygu uchelgeisiol yn cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf i arbenigwyr mewn ystod o feysydd ymchwil a diwydiant.