Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu llwyddiant parhaus o ran ein sgoriau

30 Mehefin 2020

Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn dathlu eu llwyddiant ar ôl canlyniadau diweddaraf dau dabl cynghrair nodedig.

Mae’r ysgol wedi llwyddo i aros yn yr un safle ymhlith y 100 uchaf ar gyfer Daearyddiaeth ar Restr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2020 ac yn 10fed yn y DU o ran Cynllunio Trefol a Gwledig a Thirlunio yn The Complete University Guide 2021.

Enw da’r Ysgol am ragoriaeth ym meysydd addysgu ac ymchwil yw sail y llwyddiant parhaol ar y rhestri hyn, ac er bod yr Ysgol yn dathlu’r cysondeb hwn, dywedodd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Paul Milbourne fod "llawer o waith i'w wneud o hyd".

Ychwanegodd: “Mae parhad ein llwyddiant rhyngwladol yn newyddion gwych ond rwy’n credu ei bod hi’n bwysicach dathlu sail y llwyddiant hwnnw. Hynny yw, gwaith caled, angerdd, gofal ac ymrwymiad ein tîm cyfan – y staff academaidd a staff y gwasanaethau proffesiynol fel ei gilydd. Mae hefyd yn cynnwys cyfraniadau gwerthfawr ein myfyrwyr, wrth iddynt ymgysylltu â’r cwrs mewn modd meddylgar ac ystyrlon, gan herio eu hunain i feddwl yn wahanol, a helpu i wella ein hamgylchedd addysgol a’n cymuned."

“Diolch i bawb am eu hymdrechion ac yn benodol am y ffordd y maent wedi ymateb i’r tarfu a’r ansicrwydd dros y misoedd diwethaf, gan ymaddasu i ffyrdd newydd o ddysgu ac addysgu drwy roi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a lles pawb.”

Yr Athro Paul Milbourne Head of the School of Planning and Geography

Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn cynnig ystod o raglenni israddedig ac ôl-raddedig sy’n ymwneud â daearyddiaeth wleidyddol, economaidd, gymdeithasol ac amgylcheddol yn ogystal â chynllunio, datblygu, dylunio trefol a’r amgylchedd adeiledig. Ceir pwyslais cryf ar gymhwyso theorïau’r ystafell ddosbarth yn ymarferol mewn sefyllfa yn y byd go iawn, ac mae pob rhaglen israddedig yn cynnwys y cyfle am ymweliad astudiaethau maes yn Ewrop ac yn Rhyngwladol.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.