Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr o Gaerdydd yn ennill Gwobrau Menywod mewn Eiddo

25 Mehefin 2020

Tamika Hull
Tamika Hull

Mae myfyriwr israddedig o Brifysgol Caerdydd wedi ennill rownd De Cymru o Wobrau Myfyrwyr Menywod mewn Eiddo 2020.

Cafodd y gwobrau eu dathlu ar-lein, a gwnaethon nhw ganmol cyflawniadau’r myfyrwyr talentog a gyrhaeddodd y rownd ranbarthol derfynol.

Enillodd Tamika Hull, sy’n astudio Cynllunio a Datblygu Trefol yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, siec am £500, tlws a mynediad at raglen mentora Menywod mewn Eiddo.

Disgrifiodd y beirniaid bod Tamika’n “angerddol am greu lleoedd a gwella bywydau - mae ei thraed hi ar y ddaear, mae hi’n huawdl ac yn ddeallusol”.

Dywedodd Tamika: “Mae’n gyffrous iawn cael cydnabyddiaeth fel person heb ddigon o gynrychiolaeth mewn maes o ddynion yn bennaf, yn enwedig fel menyw o liw. Mae hynny’n fy ngwneud i’n rhan fwy unigryw fyth o’r gymuned hon, ond mae hynny’n gyfle gwirioneddol gyffrous i wneud newid a gweithio ochr yn ochr â menywod gweithgar ac ysbrydoledig eraill.”

Ychwanegodd Clare Jones, cadeirydd cangen De Cymru Menywod mewn Eiddo: “Rydym wrth ein boddau’n cyhoeddi buddugoliaeth Tamika. Cynhaliwyd y paneli beirniadu yn ôl ym mis Chwefror cyn i’r cyfyngiadau symud ddod i rym, ac er ei bod hi’n siomedig peidio â gallu cynnal cinio’r gwobrau eleni, roedd yn wych gallu dathlu rhai cyflawniadau rhagorol gan fyfyrwyr yn rhithwir.”

Mae Tamika’n mynd drwy i’r rownd derfynol genedlaethol ar 16 Medi yn Llundain.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.