Ewch i’r prif gynnwys

Adnoddau newydd er mwyn helpu athrawon i gefnogi myfyrwyr yn ystod cyfnod Covid-19 a thu hwnt

25 Mehefin 2020

Emma Renold

Dywedodd arbenigwr o Brifysgol Caerdydd ym maes addysg y bydd angen i les pobl ifanc fod yn ffocws allweddol ar gyfer athrawon yn dilyn Covid-19.

Mae ymchwil yr Athro EJ Renold yn canolbwyntio ar sut mae plant yn dysgu am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys teimladau ac emosiynau, cyfeillgarwch a chydberthnasau, ynghyd â rhywedd a rhywioldeb. Mae wedi llywio gweledigaeth y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) newydd yng Nghymru, rhan statudol o gwricwlwm newydd Cymru o 2022 ymlaen.

Heddiw, mae'r Athro Renold yn lansio CRUSH, adnodd dysgu proffesiynol i athrawon er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm ACRh newydd. Yn ogystal, ers cyfnod clo Covid-19, mae'r Athro Renold wedi dyfeisio gweithgareddau gweithdy creadigol ar gyfer athrawon sydd wedi'u hanelu'n benodol at fynd i'r afael ag effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar ddisgyblion.

CRUSH image

Dywedodd yr Athro Renold, sy'n gweithio yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: “Mae’r cyfnod clo wedi arwain at effeithiau enfawr ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc. Mae'n hanfodol bod athrawon yn cael eu cefnogi ag adnoddau a thechnegau sy'n eu galluogi i wrando ar bobl ifanc ynglŷn â sut maent yn teimlo a pha gymorth allai fod ei angen arnynt, wth iddynt lywio eu ffordd drwy'r cyfnod anodd iawn hwn, yn ogystal â'r blynyddoedd sydd i ddod."

CRUSH: Mae Transforming RSE yn adnodd i ymarferwyr sy'n seiliedig ar AGENDA: cefnogi plant a phobl ifanc i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri. Mae'r adnodd yn defnyddio canfyddiadau rhaglen dysgu proffesiynol arloesol ac mae'n darparu enghreifftiau o arferion gorau i athrawon, gan gynnwys archwiliad creadigol a ddyluniwyd i gynnig gwahanol ffyrdd o wrando ar bobl ifanc am yr hyn sy'n bwysig iddynt, rhestr o dermau a gwybodaeth gefndirol allweddol er mwyn rhoi cyd-destun i'r newidiadau a wnaed i ddarpariaeth ACRh Cymru.

Mae ACRh yng Nghymru yn newid. Wrth ei wraidd, bydd yn cynnig cwricwlwm a gyd-gynhyrchir gyda phlant a phobl ifanc. Mae CRUSH yn adnodd sydd yn llawn syniadau ac arferion gorau ar gyfer sut mae ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn paratoi ar gyfer yr ACRh newydd. Un arloesiad allweddol yn yr adnodd yw sut mae athrawon yn defnyddio dulliau creadigol i ddysgu am yr hyn sydd ei angen ar blant a phobl ifanc, a gweithredu ar hynny, fel ei fod yn berthnasol, yn rymusol ac yn gynhwysol.

Professor EJ Renold Professor of Childhood Studies, Cardiff University

Mae ffilm i gyd-fynd â CRUSH, sef Making Space: Transforming RSE in Wales sy'n dangos sut mae 'archwiliad creadigol' yn edrych mewn gwirionedd.

Mae AGENDA during Covid yn gyfres ar wahân i'r gweithgareddau creadigol y gellir eu defnyddio fel pwynt dechrau ar gyfer athrawon a phobl ifanc gan drafod materion a theimladau sydd wedi dod i'r amlwg ers y cyfnod clo. Mae'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) eisoes wedi argymell AGENDA fel adnodd i gefnogi anghenion cymdeithasol ac emosiynol myfyrwyr yn ystod Covid-19.

Crush second image

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Mae plant a phobl ifanc yn cadw dweud wrtha i eu bod am gael Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb [ACRh] sydd o ansawdd uchel ac sy'n wybodus. Mae adnodd CRUSH yr Athro Renold yn cefnogi athrawon i ddatblygu ACRh mewn ffordd berthnasol a chreadigol a arweinir gan ymchwil ac sy'n canolbwyntio ar blant.

“Mae CRUSH yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i alluogi plant a phobl ifanc i ddeall emosiynau, cyfeillgarwch, cydberthnasau a rhywioldeb. Mae angen i blant gael y cyfleoedd hyn er mwyn profi eu hawliau dynol.  Mae'r hawliau hyn yn cynnwys yr hawl i gael gwybodaeth gywir, i gael eu diogelu a'u hamddiffyn rhag niwed, i beidio â chael eu gwahaniaethu, i addysg holistaidd, ac i gyfranogiad gweithredol mewn trafodaethau sy'n effeithio ar eu bywydau.

"Rwyf hefyd yn falch bod adnodd addysgu ar wahân, AGENDA during Covid, wedi cael ei ddatblygu ar gyfer plant a phobl ifanc er mwyn iddynt drafod sut mae pandemig Covid-19 wedi effeithio arnynt. Fel rhan o fy arolwg Coronafeirws a Fi clywais gan bron i 24,000 o blant a phobl ifanc a thra bod rhai wedi ffynnu yn ystod y cyfnod clo, mae emosiynau ac iechyd meddwl rhai wedi dioddef o ganlyniad i fod wedi'u hynysu o'u teuluoedd a'u ffrindiau."

Wrth i ysgolion ailagor mae'n bwysig bod athrawon yn gallu cefnogi lles plant wrth iddynt ymaddasu i newidiadau i'w bywydau.

Sally Holland The Children’s Commissioner for Wales

Dywedodd Ros McNeil, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb Addysg Cenedlaethol: “Mae'n rhaid i gefnogi iechyd meddwl a lles disgyblion fod yn flaenoriaeth ar gyfer pob ysgol bellach ac yn hir ar ôl i'r cyfnod clo ddod i ben.  Mae'r adnoddau AGENDA during Covid-19 yn amserol ac yn bwysig er mwyn helpu i ysgolion ganolbwyntio ar lais disgyblion ac ymateb i'r hyn y mae plant a phobl ifanc yn ei deimlo a'i brofi yn ystod y cyfnod hwn.  Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda'r Athro Renold i gyflwyno hyfforddiant i'n haelodau ar AGENDA a chefnogi arferion gorau o ran ACRh."

Dywedodd Kelly Harris o Brook Cymru: “Mae'n wych gweld sut mae'r adnodd pwysig, AGENDA, wedi datblygu a sut mae wedi creu gwaddol newydd yn adnodd newydd a chyffrous CRUSH. Mae CRUSH yn adnodd amserol a phwysig ar gyfer gweithwyr proffesiynol wrth iddynt ddechrau mynd i'r afael â thirwedd gyfnewidiol ACRh yng Nghymru wrth iddo ddarparu gwybodaeth, canllawiau a gweithgareddau er mwyn helpu i gefnogi datblygiad proffesiynol, ond nid yw byth yn colli lleisiau plant na phobl ifanc."

https://youtu.be/zHkGlvm8Osw

Mae’r Athro Renold am ddiolch i Gonsortia Canolbarth y De, Prifysgol Caerdydd a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol am ran-ariannu adnodd CRUSH.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.