Ewch i’r prif gynnwys

Fledge, teclyn canfod cydletwyr, yn bachu gwobr i fusnesau newydd gan fyfyrwyr

15 Ebrill 2020

Mae busnes sy’n taclo unigedd drwy helpu myfyrwyr i ddod o hyd i’r cydletywr perffaith wedi ennill Gwobrau i Fusnesau Newydd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae Fledge, a sefydlwyd gan Gabriella Holmes a raddiodd â BA mewn Saesneg Iaith, wedi bachu gwobr Entrepreneur Eiddgar gwerth £3,000 gan Brifysgolion Santander, a phecyn o gefnogaeth gyfreithiol gan gwmni Darwin Gray LLP.

Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol o bell o ganlyniad i bandemig COVID-19, gyda’r panel gwobrwyo yn cyhoeddi’r enillwyr dros Skype.

Meddai Gabriella: “Rydyn ni wrth ein boddau o fod wedi ennill y categori Entrepreneur Eiddgar. Bydd tîm Fledge yn defnyddio’r buddsoddiad yma i wthio ein busnes ymlaen ac i helpu cymaint o fyfyrwyr ag y gallwn ni wrth chwilio am dai a chydletywyr. Diolch i Brifysgol Caerdydd, Santander a Darwin Gray am y gefnogaeth!”

Ar ôl graddio, manteisiodd Gabriella ar gefnogaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Caerdydd sy’n cynnwys arian cychwynnol ar gyfer ei syniad busnes a Mentora Busnes.

Yn ail roedd Sebastian Walker (BMus Cerddoriaeth, 2017) a gafodd £2,000 gan Brifysgolion Santander a gofod gweithio yn Tramshed Tech.

Hefyd yn eu plith roedd y myfyriwr ymchwil Joseph Williams, a gafodd y Wobr Peirianwyr, gyda chefnogaeth Cymrodorion Peirianwyr mewn Busnes. Mae busnes Joseph, Rusty Design, yn fusnes gweithgynhyrchu graddfa fach a phrototeipio cyflym.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan o Wobrau i Fusnesau Newydd Prifysgol Caerdydd,” meddai Joseph. “Bydd yr arian a gawson ni yn ein helpu i brynu argraffwyr 3D er mwyn cynyddu ein capasiti gweithgynhyrchu ac yn ein galluogi i ehangu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig i gwsmeriaid.”

Meddai Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Mentergarwch ym Mhrifysgol Caerdydd: “Yn ystod yr adegau eithriadol yma, mae yna enghreifftiau nodedig o fusnesau yn chwarae rhan sifig a chymdeithasol ganolog.

“Mae llawer o fusnesau bach wedi mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau drwy addasu ac amrywio eu cynhyrchion a’u gwasanaethau i fyd sy’n newid. Mae’n anhygoel o bwysig ein bod ni’n parhau i hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaid a busnesau newydd yn ystod y cyfnod anodd yma.”

Roedd wyth categori yn y gwobrau. Enillydd y categori Ceisiwr Rhyddid oedd Tom Harvey (MSc Losgisteg a Rheoli Gweithrediadau), a gafodd £2,000 gan Brifysgolion Santander.

“Mae pawb yng nghwmni Mention Clothing yn hapus dros ben gyda’n gwobr,” meddai Tom. “Bydd yr arian yn ein helpu ni gyda’r her o gael gwared ar y stigma o gwmpas iechyd meddwl dynion. Gyda mwy o hysbysebu a siopau dros dro, rydyn ni’n gobeithio cynyddu amlygrwydd y brand, ac yn ei dro, lledaenu ein neges o annog dynion i siarad, un crys-T ar y tro.”

Cafodd ymgeisydd arall yn y categori Ceisiwr Rhyddid, Joycelyn Longdon (BSc Astroffiseg, 2019) wobr o £1,250 gan Brifysgolion Santander.

“Ar gyfer asiantaeth fechan fel BLACKONBLACK, sy’n ymroddedig i amrywio’r diwydiant creadigol a chefnogi ein rhwydwaith eang o bobl groenliw creadigol a dawnus, mae hwb ariannol yn anhygoel,” meddai Joycelyn.

Mae’n golygu bod modd i ni gynnal mentrau rydyn ni wedi’u cynllunio a chefnogi ein cymuned, y mae llawer ohonyn nhw’n cael anawsterau ariannol yn ystod Covid-19.

Joycelyn Longdon (BSc Astroffiseg, 2019)

Yn ystod y pandemig, mae’r tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn parhau i gynnig cefnogaeth cyflogadwyedd a mentergarwch, fel adnoddau dysgu ar-lein, apwyntiadau fideo, gweminarau a lleoliadau gwaith a gyflawnir drwy weithio o bell.

Bydd yr holl enillwyr yn parhau i gael mynediad at adnoddau dechrau busnes a mentora busnes er mwyn gwneud y mwyaf o’u gwobrau.

Y rhestr lawn o enillwyr:

  • Enillydd Entrepreneur Eiddgar: Gabriella Holmes (BA Saesneg Iaith, 2018)
    • £3,000 gan Brifysgolion Santander
    • Pecyn cyfreithiol am ddim gan gwmni Darwin Gray LLP
  • Ymgeisydd Entrepreneur Eiddgar: Sebastian Walker (BMus Cerddoriaeth, 2017)
    • £2,000 gan Brifysgolion Santander
    • Gofod gweithio yn Tramshed Tech
  • Ymgeisydd Entrepreneur Eiddgar: Joseph Williams, (Doethur mewn Athroniaeth, Biowyddorau)
    • £1,500 gan Brifysgolion Santander
  • Enillydd Ceisiwr Rhyddid: Tom Harvey (MSc Logisteg a Rheoli Gweithrediadau)
    • £2,000 gan Brifysgolion Santander
  • Ymgeisydd Ceisiwr Rhyddid: Joycelyn Longdon (BSc Astroffiseg, 2019)
    • £1,250 gan Brifysgolion Santander
  • Ymgeisydd Ceisiwr Rhyddid: Jack Blundell (BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol)
    • £1,250 gan Brifysgolion Santander
  • Gwobr Gwyddorau Bywyd a Gofal Iechyd: Claudia Mario (MSc Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff)
    • £1,250 gan Brifysgolion Santander
    • Gofod gweithio a mentora gan Medicentre
  • Gwobr Peirianwyr: Joseph Williams
    • £1,500 gan Gymrodorion Peirianwyr mewn Busnes

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.