Ewch i’r prif gynnwys

Llunio cymunedau'r dyfodol

8 Mawrth 2016

Bike

Mae partneriaeth newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Sustrans yn helpu i gynllunio ar gyfer cymunedau cynaliadwy'r dyfodol.

Mae ymchwilwyr o Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy'r Brifysgol a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio wedi uno ag elusen flaenllaw'r DU, Sustrans, i helpu i gyflawni amcanion Deddf Teithio Llesol Cymru, sy'n gwneud darparu llwybrau cerdded a beicio yn ofynnol.

Drwy ddefnyddio meddalwedd newydd chwyldroadol a ddatblygwyd gan Brifysgol Caerdydd, mae ymchwilwyr yn gweithio gyda Sustrans, gan ddefnyddio data i adnabod y llwybrau gorau posibl ar gyfer beicio, cerdded neu drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd Dr Crispin Cooper o'r Sefydliad Ymchwil Lleoedd Cynaliadwy: "Rwy'n feiciwr brwd, felly rwy'n falch iawn o gael cyfle i weithio gyda sefydliad mor uchel ei barch â Sustrans, i'w gwneud yn haws i bobl deithio ar droed, ar gefn beic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus."

Drwy weithio gyda'i gilydd, mae'r ddau sefydliad yn gobeithio modelu atebion cost-effeithiol, y profir eu bod yn lleihau'r defnydd o geir ac yn cynyddu teithio carbon isel. Maent am annog gweithrediad yr atebion hyn.  O ddylunio a datblygu llwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel, ar y ffordd ac oddi ar y ffordd, i helpu cymunedau cynaliadwy i ail-ddylunio eu strydoedd.

Dywedodd Alain Chiaradia o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio : "Mae anweithgarwch corfforol, ansawdd dirywiol yr aer a thagfeydd i gyd yn effeithio ar ansawdd ein bywydau. Rydym felly wrth ein bodd yn gweithio gyda Sustrans, i'w helpu i gyflawni'r gwaith cyffrous hwn ac annog datblygiad cymunedau cynaliadwy ledled Cymru."

Meddai Jane Lorimer, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sustrans Cymru: "Rydym yn hynod o falch y byddwn, drwy weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, yn gallu defnyddio data soffistigedig i helpu i fapio'r llwybrau gorau ar gyfer llwybrau cerdded a beicio newydd.  Mae'r Ddeddf Teithio Llesol yn ymwneud â chyflwyno manteision cerdded a beicio i bobl newydd.  Bydd y technegau y mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn gweithio arnynt yn helpu i ddatblygu rhwydweithiau sy'n gwasanaethu'r gymuned gyfan, ac yn caniatáu i lawer mwy o bobl deithio mewn ffordd iachach a mwy cynaliadwy bob dydd."