Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg ar waith PhD: Ymweliad ymchwil ag Wuhan…toc cyn y pandemig!

10 Mawrth 2020

Wuhanbynight
Wuhan liw nos © Giovanni Musolino

Treuliodd Giovanni Musolino, sy'n fyfyriwr PhD, chwe wythnos yn gweithio yn labordy hydrolig Prifysgol Wuhan er mwyn cynnal arbrofion llifogydd.

Rhwng mis Hydref a diwedd mis Tachwedd 2019, cynhaliodd Giovanni Musolino, myfyriwr PhD o’r Ysgol Peirianneg, ei brosiect ymchwil yn labordy hydrolig Prifysgol Wuhan, Tsieina.

Mae ymchwil Giovanni yn canolbwyntio ar ddefnyddio modelu rhifiadol ar gyfer llifogydd. Nod Giovanni yw cynhyrchu model cypledig 1D/2D gwell, sy'n gwbl gadwraethol ac sy'n cynnwys algorithm cofnodi siociau (SCA), i ragweld prosesau hydrodynamig mewn afonydd ac aberau.

'Drwy fy mhrosiect, rwy'n gobeithio gwella'r asesiad o beryglon llifogydd i gerddwyr a chynlluniau gwacáu rhag llifogydd.'

Giovanni Musolino

Diben ymweliad ymchwil Giovanni oedd defnyddio model ffisegol a oedd ar gael yn labordy Prifysgol Wuhan i "greu" sawl llif yn y model bach ei raddfa o system afon a gorlifdir. Byddai hyn wedi ei alluogi i gasglu data ar gyfer calibradu a dilysu modelau rhifiadol. Er bod mynediad i'r labordy yn gyfyngedig am y rhan fwyaf o'i arhosiad, daeth Giovanni â data o arbrofion blaenorol a ddarparwyd gan Brifysgol Wuhan yn ôl i Gaerdydd.

Wuhan's laboratory
Labordy hydrolig Prifysgol Wuhan lle cynhaliodd Giovanni ei arbrofion

Hefyd, cymerodd Giovanni ei ymweliad fel cyfle i ddysgu mwy am ddiwylliant Tsieina a'i hysbryd gweithgar. Dywedodd: 'nid oedd yn anaml y byddwn yn trefnu cyfarfodydd ag athrawon dros y penwythnos yno'.

Hefyd, gwnaeth ffrindiau â chydweithwyr ac ymwelodd â'r rhan fwyaf o Wuhan, sy'n ddinas fawr lle mae moderniaeth a thraddodiad yn cyd-fodoli: 'Mae Wuhan yn lle gwych i ymweld ag ef...ar ôl y pandemig!' meddai wrth orffen.

Giovanni in Wuhan
Giovanni gyda'i gydweithwyr Tsieineaidd yn ymweld ag Wuhan © Giovanni Musolino

Os oes diddordeb gennych mewn modelu llifogydd ac asesu peryglon llifogydd, ynghyd â dod o hyd i ragor o wybodaeth am waith ymchwil Giovanni, mae croeso i chi ei ebostio drwy musolinogd@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.