Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu newyddiadurwyr a chyfathrebwyr dwyieithog

16 Mawrth 2020

Elen a S4C
Gweithdai'n cynnig cipolwg i ddisgyblion 16-18 oed ar yrfaoedd yn y diwydiant cyfryngau yng Nghymru.

Ers cael ei lansio yn 2014, mae llwybr israddedig cyfrwng Cymraeg yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant wedi addysgu cenhedlaeth newydd o newyddiadurwyr a chyfathrebwyr Cymraeg eu hiaith yn llwyddiannus.

Fe'i crëwyd mewn ymateb i alw gan y diwydiant cyfryngau am siaradwyr Cymraeg hyderus gyda lefel uchel o sgiliau a gwybodaeth.

Mae'r llwybr yn cynnwys gweithdai ymgysylltu wedi'u hanelu at ddisgyblion 16-18 oed hyd at gyfres o fodiwlau israddedig a addysgir a sesiynau ôl-raddedig yn yr Ysgol.

Dywedodd Siân Morgan Lloyd, sy'n arwain y llwybr, "Drwy dynnu ar brofiad ein darlithwyr Cymraeg fel newyddiadurwyr a chyfathrebwyr proffesiynol mae ein gweithdai am ddim yn gallu darlunio manteision dilyn gyrfa yn y cyfryngau yng Nghymru i ddisgyblion sydd â diddordeb yn y cyfryngau, newyddiaduraeth a chyfathrebu.

"Rydym ni'n annog disgyblion i ddysgu sgiliau newydd yn cynnwys sut i ddeall bwletinau newyddion, sut i greu cynnwys digidol, adnabod newyddion ffug a chyflwyno newyddion teledu."

"Mae disgyblion sy'n symud ymlaen i un o'n graddau israddedig yn gallu edrych ymlaen at ddarlithoedd sy'n amrywio o archwiliadau beirniadol o breifatrwydd ar-lein i ddatblygu straeon digidol a mireinio sgiliau newyddiadurol mwy ymarferol, a'r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae'r rheini sy'n dymuno cynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth Gymraeg yn eu gradd yn gallu dewis astudio BA Cymraeg a Newyddiaduraeth, gradd gydanrhydedd gydag Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ychwanegodd Sian, "Mae ein darpariaeth Gymraeg yn parhau i ffynnu, ac wedi helpu graddedigion i sicrhau swyddi gyda BBC Cymru Wales, ITV Cymru, Golwg 360, cwmnïau cynhyrchu annibynnol fel Boom a Llywodraeth Cymru."

Ehangu'r tîm

Y mis hwn croesawodd yr Ysgol gyn Olygydd Rheoli Chwaraeon BBC Cymru Andrew Weeks i'r tîm addysgu Cymraeg.

Dywedodd Sian, "Ar ôl gweithio fel golygydd, rheolwr prosiect a chynhyrchydd i'r BBC ac yn helaeth ar draws materion cyhoeddus a chysylltiadau cyhoeddus i Chwaraeon Cymru, mae Andrew mewn safle delfrydol i gefnogi ein gweithdai allgymorth a bydd ei brofiad yn fuddiol dros ben i'n myfyrwyr."

I weld gweithdai ar waith, dilynwch dîm @JOMECCymraeg ar Twitter neu cysylltwch â Sian am ragor o wybodaeth.

Sian Morgan Lloyd

Sian Morgan Lloyd

Darlithydd

Siarad Cymraeg
Email
lloydsm5@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6843

Rhannu’r stori hon

Sylwebaeth, trafodaeth a barn wrth yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.