Ewch i’r prif gynnwys

Pâr yn dychwelyd i gefnogi gwasanaeth newyddion digidol

29 Gorffennaf 2019

Elen Davies and Liam Ketcher

Dau newyddiadurwr ifanc a ddechreuodd eu gyrfaoedd drwy wasanaeth newyddion digidol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ‘nôl ar y maes fel gweithwyr proffesiynol ym myd y cyfryngau.

Aeth Elen Davies a Liam Ketcher ymlaen i gael swyddi gydag ITV Cymru Wales ar ôl gweithio ar Llais y Maes Prifysgol Caerdydd yn Eisteddfod 2017.

Cafodd dau o gynfyfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ac Ysgol y Gymraeg brofiad gwerthfawr gyda Llais y Maes yn gweithio ochr yn ochr â newyddiadurwyr a chynhyrchwyr medrus.

Ond eleni, Elen a Liam – a fanteisiodd ar ddarpariaeth Iaith Gymraeg JOMEC – yw'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhannu eu sgiliau.

Byddant yn cefnogi saith o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wrth i'r Brifysgol gydweithio unwaith yn rhagor ag ITV Cymru, S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol i greu cynnwys newyddion aml-gyfrwng o'r Maes.

Dywedodd Elen: "Heb os, Llais y maes wnaeth fy arfogi â’r holl sgiliau sylfaenol ar gyfer camu i fyd newyddiaduraeth yn syth o’r Brifysgol.

“Drwy gyflwyno enghreifftiau o fy ngwaith gyda Llais y Maes bues hefyd yn ffodus i ennill gwobr Myfyriwr Newyddiadurwr y flwyddyn yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru. Mewn byd cystadleuol, gwnaeth hyn, ynghyd â’r sgiliau wnes i ddatblygu tra’n rhan o gynllun Llais y Maes apelio at gyflogwyr gan arwain at fy mhenodiad fel newyddiadurwraig yn ITV Cymru.''

Dywedodd Liam: Mae'n fraint i fod yn rhan o brosiect Llais y Maes eto eleni, ac mae'n gyfle i roi yn ôl i'r prosiect wnaeth helpu dechrau fy ngyrfa yn y byd newyddiaduraeth a chyfryngau Cymraeg.

“Yn fy rôl yma yn ITV mae sgiliau digidol a newyddiadurol yn hanfodol, ac mae Llais y Maes wedi rhoi sylfaen da i mi. Wnaeth y prosiect rhoi hyder i mi yn newyddiadurol ac wedi helpu gyda chreu cysylltiadau cryf o fewn y diwydiant.”

Mae Llais y Maes yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddysgu sgiliau newydd a'u hymarfer, creu cysylltiadau a chael cipolwg ar fywyd newyddiadurwr yn y gwaith.

Dyma'r seithfed flwyddyn y mae Llais y Maes wedi darlledu o'r Maes, a thrydedd flwyddyn y bartneriaeth swyddogol gydag ITV Cymru Wales, S4C a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Dywedodd Marc Edwards, Golygydd rhaglenni iaith Gymraeg ar gyfer ITV Cymru Wales: "Mae ITV yn hapus iawn i gymryd rhan unwaith eto yn y prosiect gwerthfawr yma sy'n gyfle gwych i feithrin newyddiadurwyr Cymraeg y dyfodol.

“Dyn ni'n edrych ymlaen yn fawr i roi llwyfan i leisiau amrywiol ac elwa o'u hegni a'u brwdfrydedd, a'u gallu i adrodd  straeon mewn ffyrdd newydd a gafaelgar ar blatfformau digidol."

Dywedodd Sian Morgan Lloyd, darlithydd o JOMEC sy'n arwain Llais y Maes eleni: "Mae Llais y Maes yn gyfle unigryw i fyfyrwyr o ran datblygu cyflogadwyedd a sgiliau trosglwyddadwy.

"Mae'r Eisteddfod yn amgylchedd diogel ond heriol i ddarganfod a chystadlu am straeon ac rydym wrth ein bodd yn arbrofi gyda ffyrdd newydd o adrodd straeon ar draws sawl platfform digidol."

Meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod: “Ry’n ni’n falch iawn i fod yn rhan o brosiect Llais y Maes unwaith eto eleni.  Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu cynnig cyfleoedd gwaith i bobl ifanc sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd darlledu.  

“Mae wythnos yr Eisteddfod yn gyfle i gael profiad o ddelio gyda phob math o straeon, o newyddion trwm i straeon ysgafn.  Gobeithio bydd criw 2019 yn cael cymaint o fudd o’r prosiect â’r rheini sydd wedi bod yn rhan o’r tîm dros y blynyddoedd diwethaf.”

Mae darpariaeth iaith Gymraeg JOMEC wedi mynd o nerth i nerth. Mae sawl un o’i graddedigion a'i myfyrwyr presennol wedi llwyddo i gael swyddi allweddol yng nghyfryngau myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.