Ewch i’r prif gynnwys

Llysgenhadon dros yr iaith

18 Chwefror 2020

Mae myfyrwyr israddedig o Ysgol y Gymraeg wedi eu penodi yn Llysgenhadon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2020/21.

Pwrpas rôl y llysgenhadon yw hyrwyddo’r Gymraeg ym myd addysg uwch ac i annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ystyried dewis astudio trwy’r Gymraeg yn y brifysgol.

Eleni, mae yna ryw 15 llysgennad o brifysgolion ar draws Cymru. Eleni eto, mae criw da o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg yn eu plith a thair myfyrwraig o’r Ysgol yn barod i ymgymryd â’r gwaith:

Bydd y tair yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys ymweliadau ag ysgolion, ffeiriau UCAS a digwyddiadau cenedlaethol megis Eisteddfodau, fel rhan o’u gwaith.

Mae’r myfyrwyr yn gytûn ei bod hi’n holl bwysig hyrwyddo’r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael i astudio drwy’r Gymraeg ac ysgogi darpar fyfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn er mwyn cyfoethogi eu profiadau addysgol a pharatoi ar gyfer y byd gwaith yng Nghymru.

Dywed Heledd: “Gyda’r Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio’n gynyddol i’n bywydau bob dydd mae angen amlwg am ymarferwyr Cymraeg a hynny’n benodol yn y proffesiynau. Dyna fy mhrif gymhelliant i ymgymryd â’m cwrs yn Gymraeg, ac o ganlyniad, fireinio fy ngafael ar yr iaith.

“Mae rôl llysgennad yn allweddol i godi ymwybyddiaeth o’r cynnig amryfal sydd bellach ar gael yn y Gymraeg. Yn ddi-os, mae myfyrwyr yn fwy tebygol o gymryd cyngor gan gyfoedion a dyna pam mae rôl llysgennad mor bwysig.”

Ychwanegodd Annell: “Mae rôl Llysgenhadon y Coleg Cymraeg yn holl bwysig wrth dynnu sylw darpar fyfyrwyr at fanteision astudio gradd neu ran o radd trwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth i Gymru ddatblygu fel gwlad ddwyieithog, bydd y galw am weithluoedd dwyieithog yn sicr o gynyddu a bydd rôl allweddol gan Lysgenhadon y Coleg Cymraeg i’w chwarae yn y broses o annog myfyrwyr y dyfodol i barhau â’u haddysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.