Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth ysgrifennu ffuglen i blant wedi’i lansio yng Nghymru a Namibia

14 Chwefror 2020

Kids reading on a library floor

Heddiw, mae Prifysgol Namibia a Phrifysgol Caerdydd yn lansio cystadleuaeth ar y cyd i ysgrifennu straeon byrion ar gyfer plant.

Cynhelir y gystadleuaeth gan Brosiect Phoenix, sy’n bartneriaeth rhwng y ddwy brifysgol er mwyn gwella iechyd, lleihau tlodi a datblygu agwedd sensitif a chynaliadwy tuag at yr amgylchedd.

Gofynnir i awduron newydd a phrofiadol fel ei gilydd gyflwyno straeon byrion Saesneg sy’n addas i blant rhwng saith a 15 oed.

Gall y straeon fod am unrhyw bwnc, ond mae’r trefnwyr yn gobeithio y byddant yn cynnwys modelau rôl cryf i blant er mwyn annog darllen a hyrwyddo cyfleoedd cyfnewid diwylliannol.

Meddai’r Athro Kenneth Matengu, Is-Ganghellor Prifysgol Namibia; “Mae darllen yn cynnig ymdeimlad o gyffro ac archwilio i blant ac mae’n eu helpu i fod yn fyfyrwyr mwy ysbrydoledig ac arloesol.”

Yn ôl yr Athro Judith Hall, Arweinydd Prosiect Phoenix ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae darllen yn tanio’r dychymyg ac yn ysgogi awydd y plant i ddysgu. Bydd darllen mwy yn agor drysau i addysg well a chyflawni rhagor.”

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi’r gystadleuaeth a’r tair wobr ariannol a gynigir i’r enillwyr.

Mae Cystadleuaeth Ffuglen Fer i Blant Phoenix 2020 yn agored i unrhyw un sy’n byw yn Namibia a Chymru (rhaid bod yn 18+ oed i gymryd rhan). Anfonwch eich cynigion, na ddylai fod dros 3,000 o eiriau, at phoenixshortstory@gmail.com erbyn y dyddiad cau ar 30 Ebrill.

Mae rhagor o wybodaeth am Brosiect Phoenix ar gael yma.

Rhannu’r stori hon

Tîm y prosiect sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau'r prosiect.