Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect gan Brifysgol Caerdydd yn lansio menter plannu coed gydag ysgolion yng Nghymru a Namibia

13 Ionawr 2020

First Minister Mark Drakeford; teacher Dr Anna Henderson; Phoenix Project lead Professor Judith Hall; Vice-Chancellor Professor Colin Riordan
Y Prif Weinidog Mark Drakeford; athro Dr Anna Henderson, Arweinydd Prosiect Phoenix, yr Athro Judith Hall; Is-Ganghellor yr Athro Colin Riordan Diolch am y llun: Paul Crompton

Heddiw, lansiwyd prosiect sydd â’r nod o blannu coed mewn cynifer o ysgolion â phosibl ar draws Cymru a Namibia, yng Nghaerdydd.

Lansiwyd Coed Phoenix gydag Ysgolion Cymru â seremoni plannu coed yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ym mhresenoldeb Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Colin Riordan a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford.

Mae’r rhaglen plannu coed yn cael ei rhoi ar waith a’i harwain gan Brosiect Phoenix, sy’n bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia er mwyn gwella iechyd, lleihau tlodi a datblygu agwedd sensitif a chynaliadwy tuag at yr amgylchedd.

Meddai arweinydd y prosiect, yr Athro Judith Hall, fod cronfa gynaliadwyedd wedi’i sefydlu bum mlynedd yn ôl er mwyn cydnabod goblygiadau’r teithio rhyngwladol a geir wrth gynnal y prosiect, yn ogystal ag ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i ymddygiad cyfrifol o ran carbon.

“Mae dirfawr angen am y fenter hon, gan fod amgylcheddau yng Nghymru a Namibia o dan fygythiad; rydym yn gweld coetiroedd brodorol Cymru’n cael eu colli a mwy o ddiffeithdiro yn Namibia,” meddai’r Athro Hall, o Ysgol Meddygaeth y Brifysgol.

Fel partneriaeth go iawn, rhaid i ni wneud yr hyn yr ydym yn ei wneud yn Namibia yma yng Nghymru hefyd - rhaid i’r ddwy wlad fod ar eu hennill. Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr brotestio ynghylch y newid yn yr hinsawdd, ond ar ben hynny, gwneud gwahaniaeth go iawn.

Yr Athro Judith Hall Professor of Anaesthetics, Intensive Care and Pain Medicine. Phoenix Project Lead

Daeth disgyblion o glwb amgylcheddol yr ysgol a’r athro Dr Anna Henderson, arweinydd staff y clwb, i’r lansiad.

Dywedodd Dr Henderson: “Rydw i wrth fy modd yn gallu helpu i rymuso disgyblion Glantaf i weithredu a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r bygythiad go iawn sy’n peryglu ein bioamrywiaeth bellach.

“Mae llawer o bobl yn angerddol dros faterion amgylcheddol, ond heb y grym i gymryd camau ystyrlon, ataliol ar lefel bersonol. Maent yn deall cystal ag unrhyw un pa mor fawr yw effeithiau gweithrediadau ein cymdeithas, a faint o newid sydd ei angen i droi’r llanw.”

Dywedodd Gwen Evans sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 10: “Rydw i’n credu ei bod hi’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’r problemau yr ydyn ni’n eu hwynebu heddiw, yn ogystal â cheisio lleihau ein cyfraniadau at gynhesu byd-eang fel ysgol.

“Drwy’r digwyddiad plannu coed hwn, rwy’n credu ein bod ni’n cymryd cam i’r cyfeiriad cywir i leihau allyriadau carbon yng Nghymru.”

A meddai Carys Reardon-Smith, sydd hefyd yn ddisgybl ym Mlwyddyn 10: “Rwy’n teimlo’n ffodus iawn cael cymryd rhan yn hyn a gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsoddol presennol.

“Mae gweithio gyda Phrosiect Phoenix wedi ein galluogi ni i leisio ein barn ni a helpu pobl lai ffodus, yn ogystal â gweithredu er lles y blaned ar yr un pryd.”

Bydd y byd yn lle gwell os ydym yn gweithredu ar gyfer ei ddyfodol. Bydd plannu coed a gweithio ar draws ffiniau’n helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a hybu bioamrywiaeth yma yng Nghymru ac yn Namibia, ac mae’n dangos i ddisgyblion Glantaf sut gallan nhw wneud gwahaniaeth go iawn.

Mark Drakeford

Mae Prosiect Phoenix yn gweithio gydag ysgolion yn y ddwy wlad, yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, fydd yn arwain mentrau plannu ehangach ar draws lleoliadau y tu allan i’r ysgolion.

Mae plannu coed eisoes ar waith yn Namibia, ac mae’r prosiect hefyd yn bwriadu plannu coed yn Zambia, lle mae Prosiect Phoenix wedi dechrau gweithio’n ddiweddar.

Mae Prosiect Phoenix yn cwmpasu amrywiaeth eang o brosiectau a sbardunir gan effeithiau, mewn ymateb i ofynion Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. 

Ers ei lansiad yn 2014, mae wedi datblygu dros 40 o brosiectau ar y cyd yn Namibia, Zambia a Chymru, gan gynnwys hyfforddi’r anaesthetegyddion proffesiynol cyntaf; hyfforddi meddygon, nyrsys a bydwragedd; cynnal mentrau diogelwch ar y ffyrdd; cefnogi ieithoedd lleol, cynyddu ymwybyddiaeth o hawliau dynol a gweithio dros ddiogelwch dŵr a’r amgylchedd.

Rhannu’r stori hon

Tîm y prosiect sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau'r prosiect.