Ewch i’r prif gynnwys

Arddangosfa gelf deithiol yr Atlas Llenyddol yn cyrraedd ei chyrchfan derfynol

27 Ionawr 2020

Mae gwaith celf a gomisiynwyd fel rhan o’r project Atlas Llenyddol - sy’n archwilio daearyddiaeth, hanes a chymunedau Cymru trwy gyfrwng nofelau Saesneg a leolir yn y wlad - yn cael ei arddangos yn y Senedd ac adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd tan Chwefror 17 2020.

Dyma gyrchfan derfynol taith blwyddyn o hyd ar draws Cymru ar gyfer yr arddangosfa Dychmygiadau Cartograffig a gychwynnodd ym mis Chwefror 2019.

Mae’r arddangosfa yn gasgliad o ddeuddeg o weithiau celf a gomisiynwyd i gynrychioli pob un o’r nofelau Saesneg a ffurfiodd ran o ymchwil wreiddiol prosiect yr Atlas Llenyddol.

Rhoddwyd nofel i bob artist a gofyn iddyn nhw: “chwarae gyda syniadau traddodiadol ynghylch mapio cartograffig ac archwilio’r posibiliadau o gyfathrebu’r berthynas rhwng tudalennau a llefydd, yn ogystal â llyfrau a mapiau, yn weledol”. Dyma’r artistiaid a’r nofelau a roddwyd iddynt.

Cynhaliwyd digwyddiad lansio ar gyfer rhan olaf taith yr arddangosfa, wedi ei noddi gan Bethan Sayed AM, ddydd Mercher 15 Ionawr yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Yn ystod y digwyddiad fe wnaeth yr Athro Jon Anderson o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio a’r prosiect Atlas Llenyddol gyflwyno’r ymchwil i’r gwesteion. Esboniodd sut mae’r ymchwilwyr wedi creu mapiau digidol arloesol o’r perthynas rhwng gweithiau llenyddiaeth Saesneg o Gymru a’u lleoliadau Cymreig unigryw. Mae’r teclyn yn galluogi defnyddwyr i ddilyn llinyn naratif pob un o’r deuddeg nofel yn ddaearyddol o amgylch Cymru a’r byd, gan archwilio pob lle sydd wedi llunio’r stori a’r cymeriadau.

Roedd yr arlunydd Seán Vicary hefyd yn bresennol i gyflwyno ei ffilm, 'Sitelines', sy’n ymateb i ddaearyddiaeth lenyddol nofel Alan Garner The Owl Service (1966).

Ewch i wefan yr Atlas Llenyddol i weld y gwaith celf a darllen datganiad pob artist.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.