Ewch i’r prif gynnwys

Atlas Llenyddol yn cynnig safbwyntiau newydd ar Gymru

11 Hydref 2018

Literary atlas

Mae daearyddiaeth Cymru yn cael ei hystyried drwy ei ffuglen, yn rhan o brosiect rhyngweithiol ar-lein.

Bydd Atlas Llenyddol, fydd yn cychwyn y mis hwn, yn plotio lleoliadau o gwmpas Cymru y mae nofelau Saesneg yn sôn amdanynt. Mae cannoedd o weithiau o ffuglen wedi’u hastudio ar gyfer yr ymarfer, ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).

Gan ganolbwyntio’n fanwl ar 12 o lyfrau, mae ymchwilwyr wedi cofnodi’r holl gyfeiriadau daearyddol y mae’r straeon yn sôn amdanynt. Mae’r teclyn ar-lein yn gadael i ddefnyddwyr olrhain llinynnau’r straeon i gyd o gwmpas Cymru a’r byd, gan chwilio o gwmpas pob lle sydd wedi llunio’r nofelau.

Yn rhan o’r prosiect, cafodd artistiaid eu comisiynu i greu 12 gwaith celf gwreiddiol, un i gynrychioli pob llyfr. Bydd yr arddangosfa hon yn teithio o gwmpas Cymru yn 2019.

Bu’r 12 nofel yn cynnwys The Rececca Rioter gan Amy Dilwyn, sydd wedi’i lleoli ger Cilâ Uchaf yn Abertawe a The Owl Service, gan Alan Garner, sydd wedi’i lleoli yn Llanymawddwy, yn y canolbarth. Mae Twenty Thousand Saints gan Fflur Dafydd wedi’i lleoli ar Ynys Enlli, yn y gogledd. Mae Mr Vogel gan Lloyd Jones, wedi’i lleoli yn Llanfairfechan,  yn y gogledd, ond mae’r cymeriadau’n teithio o gwmpas y wlad ar anturiaethau epig.

Hefyd, mae’r Atlas Llenyddol yn olrhain prif leoliadau daearyddol yr holl nofelau Saesneg yng nghasgliadau Cymreig Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe, a Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Cafodd un lleoliad allweddol ei gymryd o bob un o’r 558 o nofelau, gan roi trosolwg eang o’r berthynas rhwng llinyn stori a’i lleoliad i ddefnyddwyr.

Meddai’r Athro Jon Anderson, o Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd y prosiect: “Mae’r wefan yn rhoi’r cyfle i ddefnyddwyr grwydro o amgylch Cymru a gweld sut mae’r wlad a’i phobl hynod o amrywiol wedi dylanwadu ar lenyddiaeth Saesneg allweddol.

Ychwanegodd: “Er bod y prosiect hwn wedi canolbwyntio ar nofelau Saesneg i ddechrau, bydd ehangu’r ymchwil i ystyried llenyddiaeth Gymraeg yn hollol bosib. Bydd hyn yn darparu darlun llawn o sut mae daearyddiaeth a llenyddiaeth yn cydblethu.”

Meddai’r Athro Kirsti Bohata o Brifysgol Abertawe: “Disgrifiodd y darllenwyr yr ydym wedi gweithio gyda nhw’r cysylltiad emosiynol cryf yr oeddynt yn ei deimlo rhwng llenyddiaeth a lleoliadau. Mae’r prosiect yn ystyried y ffyrdd amrywiol y mae llenyddiaeth yn cyfleu cyfarwydd-deb â lleoedd go iawn a dychmygol.”

Mae nodweddion eraill y wefan yn cynnwys rhestr o holl blaciau glas yr awduron sy'n coffáu’r cysylltiadau rhwng safleoedd daearyddol penodol ac awduron enwog o Gymru.

Hefyd, mae cyfle i bobl gyflwyno eu “microffuglen” eu hunain, sef darn bach ysgrifenedig am le yng Nghymru sy’n arbennig iddynt.

Meddai’r Athro Anderson: “Bydd gan bawb sy’n byw yma neu’n ymweld â’r wlad atgofion o leoedd o gwmpas Cymru a chysylltiadau â nhw a allai fod yn sail i’w dychymyg. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn tanio creadigrwydd pobl i ffurfio map llenyddol manwl a chyfoethog y gellir ei rannu a chyfrannu ato am flynyddoedd i ddod.”

I ddysgu mwy ewch i: http://www.literaryatlas.wales/en/

Rhannu’r stori hon