Ewch i’r prif gynnwys

New Hidradenitis suppurativa study - laying the pathway for future research

24 Ionawr 2020

THESEUS study team

Nod yr astudiaeth yw dogfennu’r llwybrau trin presennol sydd ar gael yn y DU i gleifion â Hidradenitis suppurativa (HS) a chynhyrchu set o gwestiynau ymchwil i’w blaenoriaethau a dyluniadau o’r astudiaeth arfaethedig ar gyfer treialon hapsamplu rheolyddedig (RCT) HS. Ar ben hynny, bydd yr astudiaeth yn diffinio’r offer mwyaf addas i fesur deilliannau, drwy gofnodi newidiadau o ran difrifoldeb HS dros amser.

Clefyd croenol llidiol, cronig, a phoenus yn aml yw HS, sy’n effeithio ar tua 1% o boblogaeth y DU ac yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywydau’r dioddefwyr.

Er mai cyflwr cymharol gyffredin yw HS, mae’r sail dystiolaeth ynglŷn â’i drin yn gymharol brin. Gan fwyaf, mae canllawiau Ewropeaidd ynghylch ei drin yn seiliedig ar gonsensws ac yn y DU mae amrywiadau o ran trin HS wedi’u hadnabod. Cyhoeddodd Partneriaeth Pennu Blaenoriaethau Cynghrair James Lind ar gyfer HS (PSP) restr o 10 blaenoriaeth ar gyfer ymchwil i HS yn y dyfodol, gan gynnwys ymyriadau meddygol a llawfeddygol. Mae astudiaeth THESEUS yn ymgorffori sawl un o flaenoriaethau PSP HS, gan gynnwys archwilio triniaethau geneuol a llawfeddygol.

O ran mesur deilliannau, bu llawer o heterogenedd ar draws treialon HS. Fodd bynnag, mae parthau deilliant creiddiol bellach wedi’u sefydlu gan y Cydweithrediad Rhyngwladol i Bennu Deilliannau Creiddiol ar gyfer Hidradenitis Suppura (HISTORIC). Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn gweithio’n agos gyda HISTORIC i ddiffinio offer mesur deilliannau i asesu ymatebion i driniaethau ac yn cynnig amcangyfrifon o Wahaniaeth Pwysig Minimol (MID) am nifer o’r offer.

Dr John Ingram yw prif ymchwilydd THESEUS yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

THESEUS yw un o’r astudiaethau ymchwil HS cyntaf i gael cyllid cyhoeddus yn y DU. Mae THESEUS yn cael cefnogaeth dermatolegwyr a llawfeddygon cosmetig hefyd i werthuso ymyriadau meddygol a llawfeddygol.

Dr John Ingram Clinical Senior Lecturer

Astudiaeth carfan arfaethedig arsylwadol yw astudiaeth THESEUS. Ei nod yw llywio a dylunio treialon ar hap wedi’u rheoli (RCTs) HS y dyfodol a deall sut mae triniaethau HS yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd. Bydd hefyd yn asesu dau ymyriad sy’n cael eu defnyddio mewn sawl gwlad ond nid ydynt yn cael eu defnyddio’n aml ar gyfer HS yn y DU ar hyn o bryd. Hynny yw, tynnu to twnelu croen a thriniaeth LASER. Bydd gofyn i gyfranogwyr ddewis un o’r opsiynau triniaeth sydd ar gael ac sy’n addas i’w gofal. Bydd yr ymyriadau triniaeth a ddewiswyd yn cael eu dyrannu ar eu gyfer a bydd y broses yn cael ei dilyn am 12 mis. Bydd ymchwilwyr yn mesur effaith y driniaeth gan ddefnyddio holiaduron HISTORIC a dulliau eraill sydd wedi’u dilysu o fesur canlyniadau. Yn ystod yr astudiaeth, bydd y triniaethau laser a llawfeddygol yn cael eu recordio er mwyn helpu i greu fideo hyfforddiant ar gyfer treialon y dyfodol. Bydd astudiaethau dulliau cymysg wedi’u nythu yn nodweddu’r ymyriadau sy’n cael eu defnyddio yn ystod ymarfer clinigol, deall hwyluswyr a rhwystrau recriwtio RTCs HS y dyfodol, ac edrych ar bersbectif cleifion a chlinigwyr ar driniaethau HS.

"Ar hyn o bryd does dim llawer o ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o HS. Mae angen newid hyn. Mae’r astudiaeth THESEUS newydd yn rhoi llais i gleifion HS ac yn agor y drws ar gyfer ymwybyddiaeth ac ymchwil pellach, pethau sydd wir angen ar y rhai ohonom sy’n byw gyda’r cyflwr poenus hwn. Yn bwysicach, mae’n rhoi gobaith i ni."

- Ceri Harris BEM, ymddiriedolwraig i’r Ymddiriedolaeth HS a chlaf a chynrychiolydd y cyhoedd yn yr astudiaeth THESEUS.

Ar hyn o bryd does dim llawer o ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth o HS. Mae angen newid hyn. Mae’r astudiaeth THESEUS newydd yn rhoi llais i gleifion HS ac yn agor y drws ar gyfer ymwybyddiaeth ac ymchwil pellach, pethau sydd wir angen ar y rhai ohonom sy’n byw gyda’r cyflwr poenus hwn. Yn bwysicach, mae’n rhoi gobaith i ni.

Ceri Harris BEM, a trustee of the HS Trust and patient and public representative on the THESEUS study

Mae THESEUS yn cael ei ariannu gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol oherwydd galwad wedi’i chomisiynu ynghylch “Rheoli Hidradenitis Suppurativa”.

Rhannu’r stori hon

Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.