Ewch i’r prif gynnwys

Meithrin gallu er mwyn monitro cynlluniau cymorth cymdeithasol yn Uganda

8 Ionawr 2020

Dr Marco Pomati and Dr Shailen Nandy with researchers in Uganda

Mae academyddion o Brifysgol Caerdydd yn helpu i feithrin gallu er mwyn monitro effaith cynlluniau cymorth cymdeithasol yn Uganda.

Mae Dr Marco Pomati a Dr Shailen Nandy yn cydweithio gydag UNICEF Uganda a Swyddfa Prif Weinidog Uganda i ddatblygu adnoddau i gynorthwyo â’r gwaith o fonitro a gwerthuso effaith dau gynllun cymorth cymdeithasol mwyaf Uganda – Cronfa Gweithredu Cymdeithasol Gogledd Uganda (NUSAF) a’r Prosiect Datblygu ar gyfer Effeithiau Dadleoli (DRDIP).

Mae’r ddwy raglen yn mynd i’r afael â phroblemau yn y cymunedau mwyaf tlawd a difreintiedig, yn ogystal â buddsoddi mewn isadeiledd lleol a chefnogi sefydliadau cymunedol lleol sy’n ceisio trechu tlodi a gwella bywydau pobl.

Rhaglen gymorth gwerth $130 miliwn a ariennir gan Fanc y Byd sydd yn ei drydydd cam ar hyn o bryd yw NUSAF, ac mae’n gweithio ar draws 56 rhanbarth yng ngogledd Uganda. Mae DRDIP, a ariennir gan Fanc y Byd hefyd, yn rhaglen aml-wlad gwerth $175 miliwn sy’n gwerthu yn Djibouti, Ethiopia ac Uganda. Mae’r rhaglen yn mynd i’r afael ag effeithiau dadleoli gorfodol ar wledydd a chymunedau yn rhanbarth Horn of Africa.

Ym mis Rhagfyr 2019, teithiodd Dr Pomati a Dr Nandy i Jinja, Uganda, i weithio gyda Mr Herbert Akampwera a Mr Michael Oturu, Arbenigwyr Monitro a Gwerthuso ar gyfer Swyddfa’r Prif Weinidog, a Sarah Kabaija, Arbenigwr Monitro yn UNICEF Uganda, i gynnal gweithdy deuddydd. Daeth cynllunwyr o ranbarthau a ddewiswyd gan Swyddfa’r Prif Weinidog, gweinyddwyr, academyddion ac ymchwilwyr i’r gweithdy.

Cafodd y rhai a oedd yno eu hyfforddi i ddadansoddi data ac ystadegau a gasglwyd gan ddefnyddio’r dull cydsyniol i asesu tlodi aml-ddimensiwn mewn dros 4,000 o gartrefi yn Uganda ym mis Tachwedd 2019. Trwy ddadansoddi’r data, cadarnhawyd maint yr amddifadedd cymdeithasol a materol ymhlith oedolion a phlant yng ngogledd a gorllewin Uganda.

Treuliodd Dr Pomati a Dr Nandy hefyd ddiwrnod yn trafod gwaith maes a chanfyddiadau cychwynnol gyda 70 o gyfrifwyr o Uganda sy’n casglu data bob chwe mis. Caiff y data hwn ei ddefnyddio wedyn i fonitro a gwerthuso’r rhaglenni NUSAF a DRDIP. Bydd gwaith yn y dyfodol yn rhoi hyfforddiant ar ddadansoddi arhydol i asesu newidiadau dros amser ac effeithiau canghennau gwahanol o bob rhaglen.

Meddai Dr Pomati am y gwaith: “Mae’r gwaith arloesol hwn yn dangos ymrwymiad Swyddfa’r Prif Weinidog ac UNICEF Uganda i werthuso effaith rhaglenni cymorth cymdeithasol ac economaidd pwysig megis NUSAF III a DRDIP. Roedd yn wych gweithio gyda chynllunwyr lleol, cyfrifwyr data, ymchwilwyr ac arbenigwyr monitro a gwerthuso.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.