Ewch i’r prif gynnwys

Tlodi plant ac amddifadedd ymhlith ffoaduriaid o Uganda

13 Mehefin 2018

Lansio'r adroddiad yn Kampala, Uganda
Lansio'r adroddiad yn Kampala, Uganda

Mae astudiaeth a gynhaliwyd gan academyddion Prifysgol Caerdydd, mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Ymchwil Polisi Economaidd (EPRC) yn Uganda a UNICEF Uganda, wedi archwilio tlodi plant ac amddifadedd yn yr ardaloedd o Uganda sy’n cynnal ffoaduriaid.

Cyfrannodd Dr Shailen Nandy a Dr Marco Pomati at yr astudiaeth oedd yn asesu tlodi plant, amddifadedd a chyflwyno gwasanaethau cymdeithasol plant mewn tair o’r prif ardaloedd sy’n cynnal ffoaduriaid yn Uganda.

Dangosodd yr astudiaeth fod cymunedau ffoaduriaid a lletya yn y tair ardal hyn - Gorllewin Nîl, y De-orllewin, a Kampala - fel ei gilydd yn dal heb wasanaethau sylfaenol fel dŵr, glanweithdra a chysgod, er gwaethaf y darpariaethau a wnaed gan lywodraeth y wlad.

Cafwyd bod plant sy'n ffoaduriaid yn fwy difreintiedig ar draws amrywiaeth o ddangosyddion na’r plant yn y cymunedau lletya.

Nododd y canfyddiadau fod angen brys am hwyluso integreiddio cymdeithasol ac economaidd, gwella safonau byw a bywoliaeth ffoaduriaid a lletywyr. Y gobaith yw y bydd hyn yn gwella’r cyfathrebu rhwng y gwahanol bleidiau ac yn caniatáu ar gyfer rhannu adnoddau cyfyngedig yn heddychlon.

Fodd bynnag, cafwyd bod amddifadedd ymysg ffoaduriaid yn tueddu i leihau dros amser. Ar ôl byw yn yr ardal am bum mlynedd, roedd cyfraddau amddifadedd ymysg ffoaduriaid yn cyfateb i rai’r lletywyr. Fodd bynnag, roedd hyn yn bennaf oherwydd lefelau uchel o amddifadedd ymysg cymunedau lletya.

Yn 2017, amcangyfrifwyd bod poblogaeth ffoaduriaid Uganda yn gyfanswm o 1.4 miliwn, gan ei bod yn cynnal pobl a ddadleolwyd gan wrthdaro yng ngwledydd cyfagos De Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, Rwanda a Burundi.

Ariannwyd yr astudiaeth gan UNICEF-Uganda yn sgîl pryder ynghylch effaith tlodi difrifol ar fywydau plant, eu datblygiad a’r cyfleoedd a gânt.

Gweithiodd yr astudiaeth gydag EPRC, a defnyddio cyfweliadau mewn arolwg o 650 o aelwydydd i asesu amodau a darpariaeth ar gyfer plant a theuluoedd.

Defnyddiodd yr astudiaeth y Dull Cydsyniol i asesu tlodi ymysg cymunedau ffoaduriaid; mae’r dull hwn yn golygu bod modd asesu tlodi amlddimensiwn ar wahân ar gyfer plant ac oedolion, yn unol â diffiniadau cenedlaethol.   Fe’i defnyddiwyd hefyd yn Arolwg Aelwydydd Cenedlaethol Uganda 2017, y mae data ohono yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd gan Dr Nandy a Dr Pomati, mewn cydweithrediad â chydweithwyr yng Nghanolfan Townsend ar gyfer Ymchwil Tlodi Rhyngwladol ym Mhrifysgol Bryste.

Dywedodd Dr Doreen Mulenga, cynrychiolydd UNICEF yn Uganda: "Mae angen i ni fynd y tu hwnt i'r ymateb brys i adeiladu systemau a chapasiti yr holl wasanaethau cymdeithasol mewn ardaloedd sy’n cynnal ffoaduriaid. Dim ond drwy wneud hynny – gyda iechyd, maeth, addysg, dŵr, glanweithdra, gwasanaethau amddiffyn plant, ymhlith eraill – y byddwn yn lleihau’r amddifadedd lluosog a brofir gan ddegau o filoedd o blant sy'n ffoaduriaid a phlant yn y cymunedau lletya."

Dywedodd Dr Sarah Ssewanyana, Cyfarwyddwr Gweithredol EPRC, am yr astudiaeth: "Mae'r astudiaeth yn cynrychioli’r ymgais gyntaf i gymharu tlodi plant ac amddifadedd mewn cymunedau lletya a ffoaduriaid yn Uganda. Ar lefel fyd-eang, mae'n cynrychioli’r enghraifft gyntaf o ddefnyddio dull cydsyniol i fesur tlodi a sefyllfaoedd argyfyngus."

Mae Dr Marco Pomati yn gweithio gydag EPRC ar hyn o bryd i archwilio'r tueddiadau o ran canlyniadau maeth plant a gwariant aelwydydd ar fwyd.  Mae Dr Shailen Nandy yn gweithio gyda UNICEF Uganda ar ddatblygu deunyddiau hyfforddi ar gyfer ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn defnyddio'r Dull Cydsyniol mewn astudiaethau eraill ac arolygon o aelwydydd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.