Ewch i’r prif gynnwys

Yr Academi Gwyddor Data’n cynnal digwyddiad ymgysylltu â diwydiant

19 Rhagfyr 2019

Data Science Academy hosts industry engagement event
The Data Science Academy industry engagement event attracted companies from all over South Wales

Cafodd sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector o ledled de Cymru eu croesawu i ddigwyddiad diwydiannol yn yr Academi Gwyddor Data’n ddiweddar.

Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau fel IBM, Confused.com, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Dŵr Cymru  a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn gallu clywed am fenter strategol newydd Prifysgol Caerdydd sy’n bwriadu meithrin graddedigion sgilgar iawn ar draws ystod o raddau Meistr sy’n ymwneud â data.

Dan arweiniad yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a’r Ysgol Mathemateg, mae cynigion cychwynnol yr Academi Gwyddor Data (DSA) yn cynnwys graddau MSc mewn Gwyddor Data a Dadansoddeg, Seibrddiogelwch a Deallusrwydd Artiffisial.

Meddai Dr Padraig Corcoran, Cyfarwyddwr Academaidd yr Academi: “Roeddem wrth ein boddau’n croesawu cynifer o westeion o ystod amrywiol o gwmnïau i’n digwyddiad cyntaf ar gyfer ymgysylltu â byd diwydiant.

“Cynigiodd y cyfle i amlygu’r amryw ffyrdd y mae busnesau’n gallu ymgysylltu â’r Academi a’i myfyrwyr, gan ei bod hi’n bwysig bod ein cyrsiau dynamig yn cael eu cyflwyno mewn partneriaeth agos â diwydiant.

“Rydym eisiau i’n cyflogwyr fod wrth galon yr Academi er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod gan ein graddedigion y sgiliau perthnasol a dymunol erbyn graddio.”

Meddai Peter Fullerton, Cyfarwyddwr Dirprwyol, Cynllunio ac Adnoddau i Gampws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Roedd nifer y partneriaid diwydiannol yn y digwyddiad hwn yn syfrdanol. Rhoddodd gyfle ardderchog i rannu dealltwriaeth o’r Academi newydd, gosod partneriaethau a gweld yr amgylchedd dysgu bendigedig y mae Ystafell Turing yn ei gynnig. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Academi i adeiladu ar ein partneriaeth gref.”

Data Science Academy hosts industry engagement event
Senior members of staff attend the Data Science Academy industry engagement event

Os oedd eich cwmni’n methu dod i’r digwyddiad ond yn ymddiddori mewn cymryd rhan yng ngwaith yr Academi, ebostiwch DSA@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon

Learn more about our vision to create the next generation of skilled data professionals to help shape the future of the digital economy.