Ynglŷn â ni
Hoffen ni ofalu bod Cymru yn paratoi graddedigion medrus a chyflogadwy iawn yn rhai o’r meysydd cyflymaf eu twf a chryfaf eu galw megis gwyddor data, deallusrwydd artiffisial a diogelwch seibr.
Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ac Ysgol Mathemateg Prifysgol Caerdydd sy’n ein cynnal ar y cyd.
Rydyn ni’n cynnig i ôl-raddedigion raddau wedi’u seilio ar gyrsiau llwyddiannus iawn Academi Genedlaethol Meddalwedd lle mae myfyrwyr yn cael profiad o fyd gwaith trwy weithio fesul tîm mewn prosiectau sy’n ymwneud â gwir glientiaid.
Pam mae angen gwyddonwyr data?
Mae galw cryf am wyddonwyr data mewn nifer o sectorau a diwydiannau achos eu bod yn gallu nodi ffyrdd gwell o gyflawni gorchwylion cymhleth megis helpu meddygon i adnabod clefydau yn fwy effeithiol neu alluogi pobl i gyfathrebu ledled y byd trwy gyfrwng meddalwedd sy’n adnabod lleferydd ac yn cyfieithu ieithoedd yn y fan a’r lle.
Mae Academi Gwyddor Data wedi’i sefydlu yn sgîl y galw hwnnw a’r ffaith bod angen graddedigion medrus ac uchelgeisiol iawn ar sawl diwydiant.
Yn ôl adroddiad annibynnol am dwf diwydiant deallusrwydd y deyrnas hon yn 2017, mae galw am bobl fedrus a chanddynt radd meistr neu ddoethuriaeth yn ogystal â’r profiad sy’n diwallu anghenion y byd diwydiannol.
Ar ben hynny, dywedodd yr adroddiad y gallai technoleg gynyddu cynhyrchiant, cryfhau gofal iechyd, gwella gwasanaethau i gwsmeriaid a rhoi £650 biliwn ar gael i economi’r deyrnas.
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw mewnforio a chyfuno sgiliau, gwybodaeth a syniadau ar draws y disgyblaethau i roi addysg o’r radd flaenaf ym meysydd gwyddor data, diogelwch seibr a deallusrwydd artiffisial.
Ar y cyd â phartneriaid diwydiannol, ein nod yw cyflwyno myfyrwyr i amrywiaeth helaeth o ddulliau deall data a defnyddio’r rheiny i roi ar waith ffyrdd arloesol o ddatrys amryw broblemau yn y byd go iawn.
Ein gobaith yw y bydd hynny o fudd economaidd a chymdeithasol, gan feithrin to newydd o broffesiynolion medrus a llywio’r drafodaeth gyhoeddus am ddefnyddio data yn y byd modern.
Rydyn ni’n chwilio ym mhob sector am gwmnïau a fydd yn cyffroi, yn ysgogi ac yn estyn y to nesaf o wyddonwyr data.