Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrwyo creadigrwydd

10 Rhagfyr 2019

Mae Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd wedi cadarnhau bod pedair Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol ar gael ar gyfer 2020.

Sefydlwyd yr Ysgoloriaethau, sy'n werth £1,000 yr un, yn 2015 ac fe'u cynlluniwyd i annog darpar fyfyrwyr i ddefnyddio eu sgiliau creadigol, i gyfleu eu personoliaethau ac i fynegi'r hyn y mae'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn ei olygu iddyn nhw.

Dywedodd Dr Iwan Wyn Rees, Tiwtor Derbyn Ysgol y Gymraeg: “Mae'r cynllun Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol bob amser yn llwyddiant. Mae'r safon wastad yn gyson ac mae'r creadigrwydd, y gofal a'r meddwl y tu ôl i bob cais yn drawiadol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyflwynwyd celf wal bwrpasol, straeon byrion yn cynnwys darluniau, cylchgrawn a chaneuon. Rydym wastad yn teimlo’n gyffrous yn yr Ysgol pan fydd ceisiadau newydd yn ein cyrraedd!”

Dwy a enillodd Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol 2019 yw Alaw Jones (BA Cymraeg a Newyddiaduraeth) ac Annell Dyfri (BA Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol). Mae’r ddwy bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Dywed Alaw: “Ymgeisiais am yr Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol gan ei fod yn gyfle gwych imi fynegi fy hun mewn dull creadigol ac ennill arian ar yr un pryd. Fel rhan o fy nghais, lluniais gylchgrawn o’r enw ‘Bwrlwm’ a oedd yn cynnwys gwahanol agweddau ar y Gymraeg. Adlewyrchais fy malchder o fedru’r Gymraeg drwy ychwanegu stori fer, nodi manteision siarad y Gymraeg a sôn am sut mae’r cyfleoedd dw i wedi eu derbyn drwy gyfrwng y Gymraeg wedi galluogi imi ddatblygu fel person. Roedd clywed fy mod wedi ennill yr ysgoloriaeth yn deimlad braf a chyffrous.”

Ychwanegodd Annell: “Ysgrifennais ddarn o waith creadigol ynghyd â chynhyrchu fidio byr yn fy nghyflwyno fy hunan (roedd honno’n dipyn o her!) fel rhan o fy nghais ar gyfer Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol. Ac er mawr syndod, wele lythyr yn cyrraedd rai misoedd yn ddiweddarach yn cadarnhau fy mod wedi ennill un o’r ysgoloriaethau. Am fraint! Mae’r arian wedi bod yn help mawr i mi wrth i mi ymgartrefu yn y brifysgol y tymor hwn.”

“Os ydych chi wedi gwneud cais i astudio gyda ni yn 2020, rwy'n eich annog chi i gymryd rhan. Beth sydd gennych i’w golli?"

Dr Iwan Rees Uwch-ddarlithydd a Chyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America

Nid oes ffurflen gais i'w chwblhau a gall ymgeiswyr ddangos eu diddordeb yn yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth neu ei diwylliant ym mha bynnag fformat a ddewisir ganddynt – gallai fod yn fideo, yn boster, yn bodlediad, yn gân, yn gerflun, yn waith celf, yn gyfansoddiad cerddorol…. unrhyw beth. Y nod yw bod mor greadigol â phosibl.

Dylid anfon ceisiadau at swyddfa'r Ysgol (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU) neu drwy e-bost (derbyncymraeg@caerdydd.ac.uk) erbyn 29 Chwefror 2019. Cewch ragor o fanylion ar y wefan.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.