Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaeth rhwng Caerdydd a Bangor yn dod â hyfforddiant meddygol i ogledd Cymru

2 Mai 2019

Cardiff and Bangor VCs

Bydd myfyrwyr Meddygaeth yn gallu cwblhau eu holl hyfforddiant meddygol yng Ngogledd Cymru am y tro cyntaf yn rhan o fenter newydd rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Bydd y bartneriaeth yn golygu bod modd cynnal rhaglen Meddygaeth MBBCh (C21) hynod lwyddiannus Prifysgol Caerdydd drwy Ysgol y Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor.

Mae myfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd wedi elwa ar leoliadau gwaith yng ngogledd a gorllewin Cymru ers amser hir, ac mae'r fenter hon yn eu galluogi i ddewis cwblhau eu rhaglen hyfforddi meddygol i gyd yng ngogledd Cymru.

Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae lansio'r rhaglen newydd hon yn gam pwysig ymlaen o ran darparu addysg feddygol yng Nghymru. Fel sefydliad, rydym mewn sefyllfa freintiedig i allu hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol. Mae'n gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr wedi paratoi ac yn barod i wneud gwahaniaeth go iawn ble bynnag y maent yn dewis gweithio o fewn ein system gofal iechyd.

"Rydym yn cydnabod ein rhwymedigaethau i Gymru a'n rôl o ran gwella lefelau iechyd a lles. Bydd y cyfle i hyfforddi rhagor o fyfyrwyr meddygaeth yng ngogledd Cymru ar y cyd â Phrifysgol Bangor yn sicr o fudd i gleifion a'r cyhoedd yn yr ardal."

Yn ôl yr Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol Bangor: "Dyma newyddion ardderchog sy'n cynrychioli datblygiad arwyddocaol yn hanes y Brifysgol. Llongyfarchiadau i bawb fu'n ymwneud â gwireddu hyn."

Mae'r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn ymateb i'r heriau y mae'r proffesiynau iechyd a gofal cymdeithasol yn eu hwynebu yng Nghymru a'r angen i addysgu rhagor o weithwyr iechyd proffesiynol o Gymru yn ogystal ag yng Nghymru. Bydd yn sefydlu rhaglen Meddygaeth arloesol amser llawn yng ngogledd Cymru ac yn cynhyrchu meddygon ardderchog sy'n barod ar gyfer anghenion newidiol cymunedau Cymru, ac sydd â dealltwriaeth ddofn o ogledd Cymru yn enwedig.

Meddai Dr Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol, Prifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein boddau i gynnig cyfle i fyfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Caerdydd gyflawni eu gradd Meddygaeth i gyd yng ngogledd Cymru. Bydd y ffrwd newydd hon o raglen hynod boblogaidd C21 yn gwella'n sylweddol ein hymdrechion i ddarparu addysg arloesol a gwasgaredig yng Nghymru. Bydd yn cynnig profiad dysgu cwbl unigryw yn ardal fendigedig y gogledd.

"Ein nod bob amser yw hyfforddi’r meddygon gorau ar gyfer Cymru a’r DU yn ehangach drwy roi addysgu o ansawdd uchel, a phrofiad dysgu ysbrydoledig sy'n seiliedig ar fwy o gyswllt clinigol. Rydym yn llawn cyffro ein bod yn adlewyrchu rhaglen sefydledig C21 gyda'n cydweithwyr yn Ysgol y Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Bangor.

Bydd y cydweithio hwn rhwng dwy brifysgol falch a nodedig yn gam mawr ymlaen tuag at fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn o ran cynnal ein gweithlu meddygol yng Nghymru.

Yr Athro Steve Riley Deon Addysg Feddygol

Gobeithir y bydd y rhaglen hefyd yn cynnig llwybrau ychwanegol i fyd Meddygaeth ac yn cynyddu amrywiaeth o fewn y proffesiwn meddygol, wrth fynd i'r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth leol.

Mae rhaglen C21 eisoes yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu 'Cymru Iachach' Llywodraeth Cymru, a bydd y rhaglen newydd hon yn paratoi myfyrwyr yn benodol fel eu bod yn cydnabod pwysigrwydd Gofal Sylfaenol wrth gyflwyno gofal sy'n rhoi'r claf yn gyntaf.  Bydd hefyd yn manteisio ar y cryfderau presennol ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bangor, sy'n cynnwys addysg feddygol, addysg i ymarferwyr iechyd, ymgysylltiad cymunedol a darpariaeth Gymraeg.

Yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rwy'n falch iawn y bydd myfyrwyr nawr yn gallu dechrau ar eu taith i fod yn feddygon drwy astudio meddygaeth yng ngogledd Cymru, gyda diolch i'r cydweithio hyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £7 miliwn i ariannu 40 o leoedd meddygol newydd eleni, 20 ym mhob un o ysgolion meddygaeth Caerdydd ac Abertawe, ynghyd â'r rhwydwaith i'w cefnogi. Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i gynyddu cyfleoedd yng ngorllewin Cymru.

"Bydd myfyrwyr ymgymryd â chymaint o'u hastudiaethau â phosibl mewn lleoliadau cymunedol er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad i sicrhau y darperir gofal mor agos â phosibl at gartrefi cleifion."

Dywedodd yr Athro Dean Williams, Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor, "Mae Bangor wedi creu enw i'w hun fel darparwr addysg ac ymchwil o safon yn y gwyddorau bywyd. Bydd y myfyrwyr newydd yn elwa o'r dysgu a'r addysgu a ddarperir gan ein staff, sydd wedi ennill gwobrau. Bydd y cyfuniad o addysgu gwyddonol safonol ym Mhrifysgol Bangor a lleoliadau clinigol sefydledig ar draws gogledd Cymru'n rhoi profiad dysgu cyffrous a gwobrwyol i fyfyrwyr."

Yn y pen draw, bydd y rhaglen newydd hon yn cynhyrchu meddygon ardderchog sy'n barod ar gyfer anghenion newidiol ein cymunedau, gan arwain at welliant o ran recriwtio a chadw meddygon yng ngogledd Cymru. Bydd hyn yn cyfoethogi'r amgylchedd iechyd a dysgu meddygol yng ngogledd Cymru ac yn gwella iechyd a lles cymunedau.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.