Ewch i’r prif gynnwys

Mae trais dêtio a thrais mewn perthynas yn fater o bwys mawr ymysg pobl ifanc yng Nghymru, yn ôl astudiaeth

26 Tachwedd 2019

Couple after a fight

Mae trais dêtio a thrais mewn perthynas (DRV), gan gynnwys trais corfforol yn ogystal ag emosiynol, yn fater o bwys mawr ymysg pobl ifanc yng Nghymru, yn ôl academyddion.

Dadansoddodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ddata arolwg gan bron i 75,000 o ddisgyblion 11–16 oed, o 193 o ysgolion yng Nghymru.

Ymhlith y bobl ifanc â phrofiad o ddêtio, dywedodd 17% o fechgyn a 12% o ferched eu bod wedi profi trais corfforol gan bartner rhamantaidd o leiaf unwaith. O ran trais emosiynol, dywedodd 28% o ferched a fu mewn perthynas eu bod wedi profi erledigaeth, o'i gymharu ag 20% o fechgyn.

Canfu dadansoddiad o'r gorgyffyrddiad rhwng erledigaeth a chyflawni bod trais corfforol yn tueddu i fynd i un cyfeiriad, ac nad yw'r rhan fwyaf o'r rheiny sy'n dioddef trais yn rhoi gwybod am hynny. Roedd trais emosiynol, ar y llaw arall, yn codi'n fwy cyffredinol ar y ddwy ochr sydd efallai'n adlewyrchu tueddiad fod gwrthdaro emosiynol yn codi'n fwy ar y cyd o fewn perthnasoedd llawer o bobl ifanc.

Yn ôl Dr Honor Young o'r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): "Mae trais dêtio a thrais mewn perthynas yn bethau sy'n effeithio ar nifer o bobl ifanc yng Nghymru. Canfyddom nad yw profiad pobl ifanc o drais dêtio a thrais mewn perthynas yn wahanol ar draws gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol, sy'n awgrymu ei fod yn effeithio ar ystod eang o bobl ifanc ar draws Cymru. Mae'r tebygolrwydd o ddioddef DRV, neu o gyflawni DRV, neu'r ddau, yn cynyddu wrth i blant, yn enwedig merched, dyfu'n hŷn."

Un canfyddiad annisgwyl yw bod llai o fechgyn wedi sôn am ymddwyn yn dreisgar o gymharu â merched. Mae angen ymchwilio ymhellach i hynny ond gallai fod yn ymwneud â llai o oddefgarwch o ran dynion yn ymddwyn yn dreisgar, allai fod wedi effeithio ychydig ar atebion y bobl ifanc.

Dr Honor Young Lecturer in quantitative research methods / Research associate

Daeth y data ar gyfer yr astudiaeth o Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2017 y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol. Mae'r arolwg – yr un mwyaf o'i fath – sy'n cael ei lenwi'n unigol gan gyfranogwyr, yn gofyn ystod o gwestiynau i ddisgyblion sy'n ymwneud â'u hiechyd a'u lles, yn cynnwys eu profiadau o ran perthnasoedd.

Mae tystiolaeth yn dod i'r fei bod profiad cynnar o DRV yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a beichiogrwydd yn yr arddegau, anhwylderau bwyta a phroblemau iechyd meddwl, yn hwyrach.

Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod mwy o debygolrwydd i ddisgyblion o gartrefi rhiant sengl neu lys-rheini, a'r rhai mewn gofal a grwpiau lleiafrifoedd ethnig penodol, brofi neu gyflawni DRV.

Ychwanegodd Dr Young: "Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod angen ymyrraeth gynnar fel nad yw nifer y bobl ifanc sy'n profi DRV yn cynyddu wrth dyfu'n oedolyn."

Mae'r arolwg, Dating and relationship violence victimization and perpetration among 11-16 year olds in Wales: a cross-sectional analysis of the School Health Research Network (SHRN), ar gael i'w ddarllen fan hyn.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.