Ewch i’r prif gynnwys

Yn ôl arbenigwyr, mae problemau cysgu ymysg plant â chyflyrau genetig yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, bod yn drwsgl ac anallu i gynllunio

22 Tachwedd 2019

Child sleeping

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi astudio patrymau cysgu plant a phobl ifanc gydag un o'r cyflyrau genetig mwyaf cyffredin – syndrom dilead 22q11.2 (22q).

Canfu'r ymchwilwyr fod bron i ddau draean (60%) o'r grŵp 17 oed ac iau â phrofiad o anhunedd neu gwsg aflonyddus ac o ganlyniad, bod gan gyfran uwch o'r rhain gyflyrau megis ADHD, anhwylderau gorbryder ac anhwylder ymddwyn. Ar ben hynny, roedd y rheiny â phroblemau cysgu hefyd yn fwy tebygol o gael problemau wrth symud, sy’n gallu achosi iddynt fod yn fwy trwsgl, ac anallu i gynllunio.

Mae plant â 22q, a adwaenir hefyd fel syndrom DiGeorge, yn fwy tebygol o gael iechyd meddwl gwael ac maent ymysg y rhai hynny sydd fwyaf tebygol o ddatblygu anhwylderau seicotig a sgitsoffrenia yn nes ymlaen mewn bywyd.

Mae ystod eang o broblemau iechyd eraill yn gysylltiedig â 22q, fel cyflyrau’r galon, problemau imiwnedd, namau taflodol, dechrau siarad yn hwyrach ac epilepsi. Gall hefyd achosi problemau datblygiadol a symudedd ac anableddau dysgu.

Cynhaliwyd yr ymchwil gan academyddion sydd wedi bod yn gysylltiedig ag Astudiaeth ECHO Prifysgol Caerdydd. Dyma astudiaeth sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol am gynyddu dealltwriaeth o anhwylderau genetig.

Dywedodd yr Athro Marianne van den Bree, o'r Ysgol Meddygaeth, sy’n arwain yr Astudiaeth ECHO: "Mae rhieni yn aml yn poeni am broblemau cwsg yn eu plentyn sydd â 22q. Dyma'r astudiaeth gyntaf i ymchwilio, mewn modd systematig, pa mor aml y mae plant sydd â’r cyflwr hwn yn cael problemau cwsg."

Rydym bellach yn deall gwir raddau'r broblem a sut mae problemau cysgu yn gysylltiedig â chyflyrau seiciatrig a phroblemau eraill, megis bod yn drwsgl ac anallu i gynllunio. Rydym nawr yn gobeithio cynnal astudiaethau pellach i ddeall pam mae'r cysylltiadau hyn rhwng cysgu a phroblemau eraill yn bodoli.

Marianne van den Bree Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Dywedodd Dr Hayley Moulding, prif awdur y papur ar yr astudiaeth gwsg: "Mae'r ymchwil hefyd yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r berthynas rhwng cysgu ac iechyd meddwl ar gyfer y boblogaeth gyffredinol. Gall problemau cysgu gynyddu'r risg o broblemau iechyd meddwl a gall problemau iechyd meddwl effeithio ar ansawdd cwsg. Mae hyn yn gallu arwain at gylch dieflig. Rydw i'n gobeithio y bydd ymchwil bellach yn helpu i dorri'r cylch hwn a llywio gwell ymyriadau yn y pen draw."

Mae amcangyfrifon o faint o bobl a effeithir gan 22q yn amrywio rhwng un o bob 4,000 ac un o bob 2,000 o enedigaethau byw. Fodd bynnag, disgwylir i'r nifer go iawn fod yn uwch na'r amcangyfrifon presennol, achos ni fydd pob un ohonynt yn cael diagnosis.

Cymerodd Joshua Armour sy’n bedair ar ddeg oed oedd wedi cael diagnosis o 22q pan oedd yn fabi, ran yr astudiaeth gyda’i frawd, Ethan, sy’n 12. Cafodd plant â 22q eu hastudio ochr yn ochr â’u brodyr neu chwiorydd nad ydynt yn dioddef o’r cyflwr.

Cafodd Joshua ddiagnosis o 22q o fewn dyddiau o’i enedigaeth, pan ddaeth doctoriaid o hyd i nam ar ei galon. Cafodd lawdriniaeth yn wyth mis oed. Mae wedi dioddef problemau iechyd eraill yn ystod ei fywyd, gan gynnwys sgoliosis, lle mae’r asgwrn cefn ar dro.

Dywedodd Victoria, ei fam bod cysgu yn broblem fawr hefyd. “Mae e wedi bod ar ei draed yn ystod y nos erioed,” dywedodd. “Mae’n cael poenau yn ei goesau a’i gefn. Mae’n cael hunllefau ac yn cael trafferth cwympo i gysgu ac yn cael trafferth mynd yn ôl i gysgu ar ôl deffro.

“Mae’n cael effaith fawr arno. Mae’n effeithio ar ba fath o ddiwrnod mae’n cael yn yr ysgol. Mae’r blinder yn cael effaith arna i fel ei ofalwr ac ar y teulu yn gyffredinol.”

Mae Victoria hefyd yn fam i Esmae, sy’n naw, ac fe ychwanegodd: “Mae wedi bod yn wych cymryd rhan yn Astudiaeth ECHO. Mae’n beth da teimlo fel ein bod ni’n cyfrannu at gael gwell dealltwriaeth o 22q.”

Cyhoeddir y papur ymchwil, Sleep problems and associations with psychopathology and cognition in young people with 22q11.2 deletion syndrome, yn Psychological Medicine ac mae ar gael yma.

https://youtu.be/SYP0U7-0cMc

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.