Ewch i’r prif gynnwys

Gweld yr anweladwy

19 Chwefror 2019

Virus

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi defnyddio crisialeg pelydr-X ac efelychiad cyfrifiadurol i fwrw golwg manylach ar y modd mae firysau'n rhwymo celloedd ac yn peri haint.

Gallai'r wybodaeth newydd helpu wrth ddatblygu cyffuriau a therapïau ar gyfer heintiau yn ogystal â manteisio ymhellach ar firysau at ddibenion triniaethau meddygol.

Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, Alex Baker o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Roedd gennym ddiddordeb mewn datblygu firysau i'w defnyddio mewn modd therapiwtig, fel trin canserau, a'u defnyddio fel brechlynnau.

"Daethom o hyd i ddau firws penodol, Ad26 ac Ad48. Mae'r firysau hyn mewn treialon clinigol lle maent yn dangos addewid fel brechlynnau i ddiogelu yn erbyn firws Ebola a haint HIV. Roeddem eisiau dod i wybod rhagor am y modd y mae'r feirysau hyny'n gweithio fel brechlynnau."

Bu'r tîm yn gwneud paratoadau pur dros ben o brotein y firws sy'n rhwymo'r firws i gell wrth heintio. Drwy ddefnyddio'r protein hwn, sydd wedi'i buro, gwnaethant gynhyrchu crisialau a chynnal astudiaethau diffreithiant pelydr-X, wnaeth roi darlun manwl iawn iddynt o'r protein y mae'r firws yn ei ddefnyddio i rwymo a heintio celloedd.

"Roeddem wedi gallu ymchwilio i'r union fodd mae'r firws yn gafael mewn proteinau ar wyneb y gell, a chawsom ein synnu’n fawr o weld na allai'r firysau hynny rwymo i brotein o'r enw CD46, oedd yn hysbys yn flaenorol fel prif dderbynnydd y firws," ychwanegodd Baker.

"Yn hytrach, dangoswn y gall y firysau hyn rwymo'n wan i dderbynnydd mynediad gwahanol, o'r enw CAR. O wneud hynny, daethom o hyd i fecanwaith oedd heb ei ganfod cyn hynny y mae adenofirysau'n eu defnyddio i addasu'r modd y maent yn gafael yn CAR."

Yn ôl y prif awdur, Dr Alan Parker, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Er mwyn hyfforddi firysau i fod yn feddyginiaethu defnyddiol fel modd o drin canser, y cam cyntaf yw deall ar lefel foleciwlaidd sut mae'r firysau hyn yn gweithio. Mae hyn yn ein caniatáu i ni ymddatod bioleg naturiol y firws, a'i "theilwra" i mewn i'r hyn sy'n ddefnyddiol yn therapiwtig.  

"Mae'r astudiaeth hon yn bwysig am ei bod yn cynnig manylion ar lefel foleciwlaidd am fioleg sylfaenol y firysau rydym yn eu trin. Bydd y wybodaeth hon yn helpu i bennu pa wrthfirysau sydd orau, o bosibl, ar gyfer trin achosion o'r firysau hyn yn eu cyflwr naturiol, sy'n peri afiechydon. Yn ogystal, bydd yn helpu i gynyddu eu datblygiad at ddibenion therapiwtig yn y dyfodol."

Mae'r ymchwil wedi'i chyhoeddi yn Nature Communications, ac fe'i hariannwyd gan Gofal Canser Tenovus, Ymchwil Canser y DU ac Ymchwil Canser Cymru. Roedd yr astudiaeth hefyd yn cynnwys cydweithwyr yn Rhydychen ac Ysgol Meddygaeth Icahn yn Mount Sinai yn Efrog Newydd.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.