Ewch i’r prif gynnwys

Arolwg Dyfodol Lloegr yn datgelu agweddau'r cyhoedd at Brexit a'r undeb

24 Hydref 2019

EU and UK flags

Mae rhaniadau dwfn sydd wedi'u tanio gan drafodaethau Brexit i'w gweld mewn ymchwil gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caeredin.

Dywed academyddion y bydd darllen yr Arolwg Dyfodol Lloegr diweddaraf, sy'n archwilio agweddau pobl at y cyfansoddiad ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban, yn brofiad 'anghyfforddus' i'r rheini a bleidleisiodd i Adael a'r rheini a bleidleisiodd i Aros yn Refferendwm yr UE yn 2016.

Ymhlith y cwestiynau a holwyd i samplau cynrychioliadol o etholwyr ym mhob gwlad oedd beth fydden nhw'n fodlon ei weld yn digwydd er mwyn cael eu ffordd ynghylch Brexit.  Mae ymchwilwyr wedi bod yn holi barn pobl ar y pwnc hwn ers y bleidlais hanesyddol dair blynedd yn ôl. Cyflwynwyd amrywiaeth o senarios i'r ymatebwyr a gofynnwyd iddyn nhw nodi a oedd pob un yn 'bris gwerth ei dalu' neu 'ddim yn werth ei dalu' naill ai i Adael yr UE neu Aros.

Mae prif ganfyddiadau Arolwg Dyfodol Lloegr 2019 a gynhaliwyd gan YouGov yn dangos y canlynol:

  • Mae'r rhan fwyaf o bleidleiswyr Gadael ar draws y tair gwlad yn credu bod trais at ASau yn 'bris gwerth ei dalu' am Brexit - 71% yn Lloegr, 60% yn yr Alban a 70% yng Nghymru. Mae'r mwyafrif o bleidleiswyr Aros ar draws y tair gwlad yn credu bod trais at ASau yn 'bris gwerth ei dalu' i Aros - 58% yn Lloegr, 53% yn yr Alban a 56% yng Nghymru.
  • Mae'r mwyafrif o bleidleiswyr Aros ar draws y tair gwlad yn credu bod protestiadau lle caiff aelodau o'r cyhoedd eu hanafu'n ddifrifol yn 'bris gwerth ei dalu' i atal Brexit ac aros yn yr UE - 57% yn Lloegr, 56% yn yr Alban a 57% yng Nghymru. Mae mwyafrifoedd hyd yn oed mwy o faint o bleidleiswyr Gadael yn y tair gwlad yn credu bod protestiadau lle caiff aelodau o'r cyhoedd eu hanafu'n ddifrifol yn 'bris gwerth ei dalu' i gyflawni Brexit - 69% yn Lloegr, 62% yn yr Alban a 70% yng Nghymru.
  • Mae mwyafrifoedd yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn credu bod trais at ASau a phrotestiadau treisgar lle caiff pobl eu hanafu’n ddifrifol yn 'debygol o ddigwydd'.

Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, cyd-gyfarwyddwr Arolwg Dyfodol Lloegr a Chyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd: "Anaml mae rhywun yn cael ei siglo gan ganfyddiadau ymchwil, ond yn yr achos hwn mae'n anodd peidio â bod yn wirioneddol syfrdan - nid yn unig am fod cynifer yn credu bod trais yn ganlyniad tebygol i Brexit, ond bod cynifer ar ddwy ochr y rhaniad Brexit fel pe baen nhw'n credu y gallai digwyddiadau o'r fath fod yn 'werth y pris' er mwyn sicrhau eu dewis ganlyniad.

O ystyried ei bod yn ymddangos fel pe baen ni ar drothwy etholiad cyffredinol arall lle gallai pegynnu pellach fod yn strategaeth ymgyrchu fwriadol gan rai pleidiau, dylai'r canfyddiadau hyn achosi i bawb feddwl a thanlinellu pwysigrwydd trafodaeth gyfrifol a phwyllog.

Yr Athro Richard Wyn Jones Athro yng Ngwleidyddiaeth Cymru

Mae canlyniadau eraill yn datgelu goblygiadau posibl i'r undeb. Yn 2017, roedd y tîm ymchwil ymhlith y cyntaf i ddangos bod y mwyafrif o bleidleiswyr Gadael yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ystyried bod chwalu proses heddwch Gogledd Iwerddon a phleidlais Ie mewn ail refferendwm annibyniaeth yn yr Alban yn 'bris gwerth ei dalu' am Brexit.
Mae canfyddiadau newydd o Arlowg Dyfodol Lloegr 2019 yn datgelu'r canlynol:

  • Mae hanner y rheini a holwyd yng Nghymru (47%), dros hanner yn Lloegr (52%) ac yn agos i ddwy ran o dair yn yr Alban (61%) yn credu bod Brexit yn debygol o arwain at chwalu'r DU.
  • Mae pleidleiswyr Aros yn benodol yn debygol o gredu y bydd Brexit yn arwain at chwalu'r DU (mae tua tri chwarter yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn credu hyn) ond mae cyfrannau tebyg o bleidleiswyr Gadael yn credu y bydd aros yn yr UE yn tanseilio ffydd yn yr undeb.
  • Mae'r mwyafrif ar ddwy ochr rhaniad Brexit yn fodlon gweld newid sylweddol i'r undeb er mwyn cael eu ffordd ar Brexit. Ymhlith pleidleiswyr Gadael, mae 74% yn Lloegr, 74% yng Nghymru a 59% yn yr Alban yn credu y byddai chwalu'r DU yn bris gwerth ei dalu er mwyn adennill rheolaeth drwy Brexit.  Mae canrannau tebyg o bleidleiswyr Aros yn credu y byddai tanseilio ffydd yn yr undeb yn bris gwerth ei dalu i aros yn yr UE. Mae'r mwyafrif o bleidleiswyr Aros yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn credu bod annibyniaeth Lloegr yn bris gwerth ei dalu i aros yn yr UE.

Dywedodd cyd-gyfarwyddwr Arolwg Dyfodol Lloegr, yr Athro Ailsa Henderson o Brifysgol Caeredin: "Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos bod Brexit yn gosod yr undeb dan straen sylweddol pa un a ydyn ni'n aros neu'n gadael. Mae'r ddwy ochr yn barod i fynd ati i ailysgrifennu rheolau gwleidyddiaeth fel rydyn ni'n ei deall yn sylfaenol er mwyn cael yr hyn maen nhw'n ei ddymuno. Bydd aros yn yr UE yn debygol o leihau ffydd yn yr undeb. Gallai Brexit newid ei ffiniau.

"Efallai fod unigolion yn mynegi ymlyniad i'r undeb, ond mae Brexit wedi datgelu bod y mwyafrif ym Mhrydain yn unoliaethwyr amwys sydd bellach yn ei ystyried yn rhywbeth y gellid ei hepgor er mwyn cael eu ffordd ar Brexit.  Am fod hyn yn wir am bleidleiswyr Gadael ac Aros fel ei gilydd, mae'n cadarnhau cymaint mae trafodaeth Brexit wedi pegynnu etholwyr ym Mhrydain. Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos bod pegynnu'n ailffurfio'r ffordd rydyn ni'n dadlau gyda'n gilydd, a'r hyn rydyn ni'n dadlau amdano, ond gallai ailffurfio'r undeb hefyd.”

Roedd yr arolwg yn holi hefyd am oblygiadau ychwanegol Gadael neu Aros yn yr UE. Dyma rai o'r canlyniadau:

  • Mae'r mwyafrif yn y tair gwlad yn meddwl y bydd y DU yn sylweddol dlotach o ganlyniad i Brexit. (52% yn Lloegr, 52% yng Nghymru a 61%yn yr Alban). Mae dros dri chwarter o bleidleiswyr Gadael yn credu ei fod yn bris gwerth ei dalu (76% yn Lloegr, 76% yn yr Alban, 81% yng Nghymru).
  • Disgwylir i aelodaeth yr UE effeithio ar ddiwydiannau Prydain. Rhagwelir yn eang y bydd diwydiant ffermio'r DU yn cael ei dinistrio o ganlyniad i Brexit - gyda 42% yn Lloegr, 46% yng Nghymru a 53% yn yr Alban yn ystyried hyn yn debygol os bydd y DU yn gadael yr UE. Mewn cyferbyniad, mae 31% yn yr Alban a 33% yng Nghymru a Lloegr yn credu y byddai aros yn yr UE yn debygol o arwain at ddinistrio diwydiant pysgota'r DU. Yn y naill gyfeiriad neu'r llall, mae pleidwyr Brexit yn credu y byddai dinistrio'r diwydiannau hyn yn bris gwerth ei dalu i gael eu ffordd eu hunain ar Brexit.

Canlyniadau'r arolwg ar gyfer Cymru.

Canlyniadau'r arolwg ar gyfer Lloegr.

Canlyniadau'r arolwg ar gyfer yr Alban.

https://youtu.be/LmzICfxJuKE

Rhannu’r stori hon

We undertake innovative research into all aspects of the law, politics, government and political economy of Wales, as well the wider UK and European contexts of territorial governance.