Ewch i’r prif gynnwys

Y gofodwr Tim Peake yn siarad â disgyblion

15 Hydref 2019

Pupils prepare to have their picture taken with UK astronaut Tim Peake.
Disgyblion yn paratoi i gael llun wedi'i dynnu gyda’r gofodwr o’r DU, Tim Peake

Bu'r gofodwr Tim Peake yn siarad â channoedd o fyfyrwyr ysgol uwchradd o dde Cymru yn y gynhadledd diwydiant gofod fwyaf yn Ewrop.

Gwahoddwyd y dysgwyr, o saith ysgol wahanol, fel rhan o raglen Trio Sci Cymru i gynyddu'r niferoedd sy'n astudio pynciau STEM yng Nghymru.

Mae pob un o'r disgyblion yn rhan o brosiect UniverseLab, sydd wedi'i gynnal gan yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, sef adran ffiseg Trio Sci Cymru yng Nghaerdydd.

Yn ôl un o seryddwyr Prifysgol Caerdydd, Dr Paul Roche, sy'n arwain menter UniverseLab: "Roedd yn gyfle rhy dda i'w golli.

"Roedd rhai o wyddonwyr gofod blaenllaw'r byd, pobl mewn uwch-swyddi o NASA a Tim Peake oll yn dod i Gymru am ychydig ddyddiau, felly roeddem o'r farn y byddai'n wych cael disgyblion sy'n rhan o'r rhaglen wyddoniaeth unigryw hon, sy'n dair blynedd o hyd, i alw heibio a chael gwybod am yr hyn y gall y gofod ei gynnig iddynt yn y dyfodol."

Tim Peake speaking about his six-month stay on the International Space Station
Bu Tim Peake yn sôn am ei chwe mis ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol

Ariennir rhaglen Trio Sci Cymru gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a bydd yn ymgysylltu â 5,000 o ddisgyblion ar draws Cymru dros dair blynedd. Academi Wyddoniaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru sy’n arwain y prosiect, ar y cyd â'r Sefydliad Ffiseg a phrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor.

Bu tua 450 o ddisgyblion blwyddyn 8 o saith o ysgolion yn ymweld â Chynhadledd Ofod y DU yng Nghasnewydd, lle bu'r Uwchgapten Peake yn siarad am y chwe mis y bu ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol (ISS).

Mae'r disgyblion, wnaeth fynd hefyd i gyfres o weithdai ar y gofod, wedi bod yn astudio'r posibilrwydd o archwilio'r blaned Mawrth a dysgu am ofodwyr a'r ISS.

Dr Jim Green, NASA Chief Scientist, spoke to year 8 pupils at Cardiff West Community High School
Bu Dr Jim Green, Prif Wyddonydd NASA, yn siarad â disgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Bu'r disgyblion yn cymysgu â phobl flaenllaw o'r diwydiant gofod byd-eang, yn cynnwys Prif Wyddonydd NASA, Dr Jim Green.

Aeth Dr Green ar ymweliad hefyd i Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd yn Nhrelái lle bu'n siarad â disgyblion blwyddyn 8 am gynlluniau NASA i ddychwelyd i'r lleuad, a chynlluniau i archwilio'r blaned Mawrth yn y dyfodol.

Mae'r disgyblion hyn yn cymryd rhan mewn rhaglen wyddoniaeth arloesol o dan arweiniad Angela Darke, gyda gwersi â themâu ynghylch archwilio'r blaned Mawrth.

Ychwanegodd Dr Roche: "Ein gobaith yw y bydd rhai o'r plant hyn yn cael eu hysbrydoli i fynd yn eu blaenau i astudio pynciau gwyddoniaeth Safon Uwch, wedyn yn y Brifysgol, a mynd i weithio yn y diwydiant gofod yn y pen draw.

"Does dim llawer o gyfleoedd gwaith ar gyfer gofodwyr, ond mae diwydiant gofod y DU yn profi cyfnod llewyrchus, a bydd sawl gyrfa ar gael yn y maes hwn, a meysydd cysylltiedig, yn y dyfodol.

"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod Cymru'n addysgu'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr, a bydd rhaglen Trio Sci Cymru'n helpu i ennyn brwdfrydedd llawer iawn mwy o fyfyrwyr ysgol i barhau â phynciau gwyddoniaeth hyd at lefel y brifysgol."

Bydd Trio Sci Cymru yn rhoi addysg wyddonol ychwanegol i tua 3,200 o ddisgyblion o 18 o ysgolion uwchradd.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.