Ewch i’r prif gynnwys

Datblygiad pwysig o ran platinwm ar gyfer catalyddion glanach a rhatach

15 Hydref 2019

Platinum

Mae gwyddonwyr wedi datblygu ffordd newydd o ostwng faint o blatinwm a ddefnyddir mewn catalyddion yn sylweddol, gan gynnig ffordd lawer rhatach a glanach o gynhyrchu ystod eang o gemegau a thanwyddau sy'n nwyddau.

Er ei fod yn bresennol mewn nifer o gatalyddion a ddefnyddir i gyflymu adweithiau cemegol mewn prosesau diwydiannol, mae platinwm yn fetel eithriadol o ddrud sy'n creu is–gynhyrchion niweidiol.

Catalysis yw'r broses o gyflymu cyfradd adwaith gemegol. Caiff ei defnyddio'n eang ym myd diwydiant i greu cynnyrch mewn modd llawer cyflymach a mwy effeithlon, a thybir bod y farchnad catalyddion fyd-eang yn werth dros $25 biliwn.

Mewn astudiaeth newydd sydd wedi'i chyhoeddi yng nghyfnodolyn Nature Catalysis, mae'r tîm o Sefydliad Catalysis Caerdydd wedi dangos sut gellir creu catalyddion gyda dim ond un rhan o ddeg o blatinwm heb aberthu perfformiad.

Yn fwyfwy, gall y catalydd ddethol mewn ffordd na welwyd ei thebyg o'r blaen, sy'n golygu bod llai o gynnyrch gwastraff yn cael ei greu.

Drwy ddefnyddio cyfran fach yn unig o'r platinwm arferol, rydym wedi lleihau’r gost o greu'r catalydd hwn yn sylweddol, heb effeithio ar berfformiad. Yn wir, ar ôl defnyddio 10% o'r metel, mae'r catalydd naill ai yr un mor actif neu hyd yn oed yn fwy actif na'r catalydd masnachol presennol.

Dr Sankar Meenakshisundaram Uwch Ddarlithydd mewn Cemeg Gorfforol

Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar reoli a thrin nanoronynnau platinwm yn unig – gronynnau bach sy'n mesur rhwng 1 a 100nm. Caiff y nanoronynnau metel hyn eu defnyddio'n eang gan ddiwydiannau fel catalyddion arloesol i gynhyrchu cemegau swmp fel polymerau, petrol, disel a chynnyrch fferyllol.

Yn eu hastudiaeth, datblygodd y tîm dechneg syml ar gyfer trin â gwres sy'n defnyddio nodweddion strwythurol nanoronynnau platinwm a roddwyd ar ben cynhaliaeth titania. O ganlyniad i hynny, roedd y safle penodol lle mae'r gweithgaredd catalytig yn digwydd yn fwy actif.

"Yn syml, drwy wneud y mwyaf o baramedrau paratoi safonol, gallwn ddangos sut mae'n bosibl defnyddio nodweddion strwythurol nanoronynnau platinwm i greu catalydd hynod actif a dethol," meddai Dr Sankar ymhellach.

"Oherwydd hynny, gwnaethom ostwng yn sylweddol y gost o wneud y catalydd hwn heb amharu ar berfformiad."

Cafodd yr ymchwil ei harwain gan Sefydliad Catalysis Caerdydd ar y cyd â gwyddonwyr o Brifysgol Lehigh, Prifysgol Jazan, Prifysgol Zhejiang, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Bologna, Cyfadeilad Ymchwil Harwell (RCaH) a Choleg Prifysgol Llundain.

Rhannu’r stori hon

Mae gwaith ymchwil ac addysg yr Ysgol ar flaen y gad yn rhyngwladol ac yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â heriau gwyddonol pwysig yr 21ain ganrif.