Ewch i’r prif gynnwys

Microsgopeg electron i hybu diwydiant Cymru

10 Mehefin 2019

Scientists working

Mae Cyfleuster Microsgop Electron (EMF) £8.6m i helpu diwydiant Cymru i ddatblygu cynhyrchion newydd i'w adeiladu ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi arian ar y cyd o'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) ar gyfer y prosiect i sbarduno darganfyddiadau ym maes catalysis – y wyddoniaeth o gyflymu newid cemegol.

Bydd cyfres o'r microsgopau hynod sensitif diweddaraf yn galluogi ymchwilwyr i astudio deunyddiau a phrosesau ar y raddfa atomig, gan helpu diwydiannau sy’n cydweithio i wneud cynhyrchion glanach, gwyrddach a rhatach.

Bydd yr EMF yn elfen ganolog o gartref newydd Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI): y Cyfleuster Ymchwil Drosiadol ar Gampws Arloesedd Caerdydd.  

At ei gilydd, bydd y cyfleuster yn dwyn ynghyd £3.6m gan ERDF trwy Lywodraeth Cymru gyda £750,000 gan Sefydliad Wolfson a £4.3m mewn arian cyfatebol gan Brifysgol Caerdydd.  

Rhwng 2014 a 2020, mae Cymru yn elwa ar dros £2bn drwy Gronfeydd Strwythurol Ewrop i helpu i gefnogi busnesau, ymchwil, arloesedd, hyfforddiant ac amcanion allweddol eraill.  

Dywedodd Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am oruchwylio cronfeydd yr UE yng Nghymru: “Bydd y buddsoddiad hwn yn cefnogi partneriaethau ymchwil o bwys rhwng Prifysgol Caerdydd a byd diwydiant a fydd yn arwain at ddatblygu technegau gweithgynhyrchu newydd, arloesol a chynaliadwy.

“Bydd ymchwil a gynhaliwyd yn y cyfleuster hwn hefyd yn helpu'r DU i newid i economi carbon isel mwy cynaliadwy - a rhoi hwb i Brifysgol Caerdydd, a Chymru gyfan, fel canolfan ar gyfer astudiaethau gwyddonol.

“Mae Cymru yn parhau i elwa'n aruthrol o gyllid yr UE a dyma enghraifft arall o'r buddsoddiad hwnnw sy'n cryfhau ein heconomi.”  

Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd ymysg pum canolfan ymchwil catalysis orau'r byd, a dyma'r cyfleuster fwyaf blaenllaw yn y DU yn y maes hwn. Mae'n cefnogi dros 100 o staff academaidd, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr graddedig.

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Nid oes cyfleuster arall tebyg i'r EMF yng Nghymru. “Mae gan y Cyfleuster rôl hanfodol i'w chwarae o ran cefnogi busnesau yn ne-ddwyrain Cymru, meithrin darganfyddiadau arloesol a gwella enw da Caerdydd am wneud gwaith ymchwil ac arloesedd sy’n arwain y byd.”

Croesawyd y buddsoddiad gan Graham Hutchings FRS CBE, cyn Gyfarwyddwr CCI ac Athro Regius mewn Cemeg, a arweiniodd y cais gwreiddiol am gyllid. “Bydd y Cyfleuster Microsgopeg Electron newydd yn galluogi'r CCI i gynnal ymchwil o'r radd flaenaf sy'n hwyluso'r gwaith dylunio catalyddion newydd er budd cymdeithas.”

Dywedodd yr Athro Duncan Wass, Cyfarwyddwr y CCI, y byddai'r EMF yn galluogi'r Athrofa i ddefnyddio ei waith arloesol i hyrwyddo catalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.  

“Bydd galluoedd nano-raddfa’r cyfleuster yn ein helpu i dorri tir newydd ar draws meysydd CCI sydd eisoes yn bodoli a rhai yn y dyfodol. Bydd y rhain yn cynnwys ocsideiddio dethol, catalysis aur, bioadnewyddadwy, llwybrau catalytig a ffotocatalysis ar gyfer prosesau cynaliadwy.”

Sefydlwyd y CCI yn 2008, mae’n ganolfan ragoriaeth o fri rhyngwladol ym mhob agwedd ar ymchwil catalysis, o ddylunio sylfaenol i gymwysiadau dan arweiniad byd diwydiant. Mae’r sefydliad wedi ymrwymo i wella'r ddealltwriaeth o gatalysis, datblygu prosesau catalytig newydd gyda byd diwydiant, a hyrwyddo’r defnydd o gatalysis fel technoleg gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.

Mae'n gartref i ficrosgop electron AC-STEM o'r radd flaenaf. Bydd EMF hefyd yn symud microsgopau presennol CCI ac offer paratoi samplau cysylltiedig i'w rhoi o dan un to mewn amgylchedd ‘tawel iawn’ di-ddirgryniad sy'n cael ei amddiffyn yn electromagnetig.

Rhannu’r stori hon

Our state-of-the-art catalysis facility supports world leading research in chemical sciences.