Ewch i’r prif gynnwys

Cefnogaeth gan yr UE ar gyfer ymchwil magneteg o’r radd flaenaf

24 Gorffennaf 2019

Magnet research

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cefnogaeth o dros £1m gan gronfeydd yr UE ar gyfer canolfan ymchwil arloesol ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu deunyddiau magnetig a all yrru systemau ynni, pŵer a thrafnidiaeth yn y dyfodol.

Nod Deunyddiau Magnetig a Chymwysiadau (MAGMA) yw dod yn ganolbwynt arbenigedd ar gyfer prosesu, nodweddu, gweithgynhyrchu ac ailgylchu deunyddiau magnetig arbenigol.

Aloeon magnetig yw’r deunydd unigol pwysicaf sy'n sail i'r economi werdd. Dyma’r deunyddiau gweithredol mewn moduron trydan, trawsnewidyddion, generaduron, synwyryddion, offer storio data a llawer o gydrannau electronig eraill.

I gyd fynd ag arian yr UE, bydd £1m gan y Brifysgol a'r sector preifat i ddatblygu'r hwb £2.1m.

Dywedodd Jeremy Miles, sy'n goruchwylio cyllid yr UE yng Nghymru: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi'r arian hwn a fydd yn cryfhau gwaith ymchwil a datblygu Prifysgol Caerdydd ar systemau trafnidiaeth, pŵer ac ynni newydd sy'n ecogyfeillgar.

"Mae cyllid yr UE wedi helpu i mewn meysydd ymchwil a datblygu, gwyddoniaeth, y seilwaith a sgiliau yng Nghymru, a dyma enghraifft arall o sut y mae cyllid yr UE yn galluogi Cymru i fod ar flaen y gad o ran y broses o drosglwyddo i fod yn economi, carbon isel sy'n fwy gwyrdd."

Sefydlwyd y Grŵp Magnetig yn yr Ysgol Peirianneg yng Nghaerdydd ym 1969. Mae wedi meithrin enw da yn rhyngwladol, yn enwedig am ei arbenigedd mewn dur trydanol.

Bydd buddsoddiad MAGMA yn adeiladu ar arbenigedd y Grŵp trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf a mewnwelediad academaidd. Y nod yw sefydlu MAGMA yn ganolfan rhagoriaeth Ewropeaidd ar gyfer deunyddiau magnetig o fewn pum i saith mlynedd.

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: “Mae gan ymchwil MAGMA rôl hanfodol o ran ysgogi technolegau’r genhedlaeth nesaf ar gyfer planed fwy gwyrdd a glanach. Ni fydd y newid angenrheidiol o danwydd ffosil tuag at gymdeithas fwy cynaliadwy sy'n cael ei dominyddu gan drydan gyda gostyngiadau sylweddol cysylltiedig mewn allyriadau yn digwydd heb barhau i ddatblygu deunyddiau allweddol.”

Bydd MAGMA yn cael ei arwain gan dîm academaidd uchel ei barch: Dr Phil Anderson, Dr Jeremy Hall a'r Athro Sam Evans o'r Ysgol Peirianneg, ynghyd â'r Athro Phil Davies o'r Ysgol Cemeg.

Mae mwy na 99% o'r holl ynni trydanol yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio peiriannau trydanol o ddeunyddiau magnetig ac ym mron pob achos mae trydan yn mynd trwy o leiaf ddau drawsnewidiwr cyn iddo gyrraedd y defnyddiwr.

Bydd cyllid yr UE yn golygu y bydd modd recriwtio dau benodiad academaidd newydd yn agored – gan dynnu o gronfeydd talent allanol sydd â phrofiad diamheuol o ragoriaeth – ynghyd â dau aelod o staff ymchwil ar secondiad diwydiannol sydd ag arbenigedd.

Mae meysydd ymchwil craidd y Grŵp yn cynnwys modelu a dylunio electromagnetig, gweithgynhyrchu peiriannau trydanol, priodweddau nodweddion magnetig sylfaenol, datblygu technoleg prosesau materol a gwahanu a graddio magnetig ar gyfer ailgylchu.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn un ysgolion peirianneg mwyaf blaenllaw'r DU ac mae ganddi enw da am ymchwil o'r radd flaenaf ac amgylchedd addysgu bywiog a chyfeillgar.