Ewch i’r prif gynnwys

Hwyl ymarferol yn y Pentref Gwyddoniaeth

23 Gorffennaf 2019

Science experiment

Mae gwyddonwyr Prifysgol Caerdydd yn profi pêl Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Bydd ymwelwyr â'r Pentref Gwyddoniaeth ar y Maes yn gallu dysgu am bolymerau sy'n cadw dŵr oddi ar y bêl sy'n ei gwneud yn haws i'w dal.

Mae'r ymarfer hwyl ac addysgol yn rhan o weithgareddau gwyddoniaeth ymarferol y Brifysgol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, Conwy, o 3-10 Awst 2019.

O ddefaid sy'n creu meddyginiaethau, i beintio clwyfau a'u gwella, gwahoddir ymwelwyr i dorchi llewys a dysgu am ymchwil Prifysgol Caerdydd.

Mae'r gweithgareddau yn y Pentref Gwyddoniaeth yn cynnwys:

  • Ewch i'r Arddangosfa Gwrthgyrff Gwych i ddysgu, gyda chymorth dafad amhrisiadwy o'r enw Darwen, sut mae gwrthgyrff yn ein gwarchod rhag pob math o afiechydon a sut mae'n ein helpu ni i greu meddyginiaethau newydd
  • Mae gennym ni i gyd waed coch a glas, ond nid yw gwaed pawb yr un fath – darganfyddwch sut y mae'r Gwasanaeth Trallwysiad Gwaed yn defnyddio gwrthgyrff i nodi'r math o waed sydd gennych a sut mae rhoi gwaed yn arbed bywydau
  • Darganfyddwch pam mae gan wenyn mêl bwerau hudol a sut y maent yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr o Gymru
  • Rhowch sioc i'ch ffrindiau a theuluoedd gyda chlwyfau realistig wedi'u peintio gan Athrofa Peirianneg a Thrwsio Meinweoedd Prifysgol Caerdydd
  • Darganfyddwch briodweddau anhygoel polymerau, sy'n gallu cael eu defnyddio i wneud clytiau sy'n amsugno dŵr, peli rygbi sy'n gwrthsefyll dŵr a deunyddiau ar gyfer gwella bodau dynol

Mae hefyd gennym raglen amrywiol o gyflwyniadau, trafodaethau a gweithgareddau ym mhabell Prifysgol Caerdydd ac mewn mannau eraill ar y Maes, gan gynnwys gweithgareddau gwyddoniaeth:

  • Mae Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau y Brifysgol yn edrych ar ddyluniad meddyginiaethau arloesol y dyfodol mewn trafodaeth fywiog (dydd Llun 5 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Mewn partneriaeth a'r Gymdeithas Strôc, bydd myfyrwyr Meddygol Prifysgol Caerdydd yn mesur eich pwysau gwaed, ac yn cynnig cyngor (dydd Mawrth 6 Awst a dydd Mercher 7 Awst, pabell Prifysgol Caerdydd)
  • Yr Athro Arwyn Jones fydd yn cyflwyno darlith wyddoniaeth Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd yn trafod sut y gwnaeth penbyliaid Dyffryn Conwy ysbrydoli ei angerdd dros fioleg yn ystod ei fagwraeth yn Llanrwst, a'i daith ymchwil ryngwladol a ddeilliodd o hynny (dydd Iau 8 Awst, Pabell y Cymdeithasau 2)

Mae presenoldeb y Brifysgol yn yr Eisteddfod yn rhan o'n hymrwymiad 'cenhadaeth ddinesig' i'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Rhannu’r stori hon

Ein nod yw rhoi cyfle i’n myfyrwyr astudio a byw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg.