Ewch i’r prif gynnwys

Taith côr yn Tsieina

19 Gorffennaf 2019

Cardiff University Chamber Choir visiting Tiananmen Square
Ymweld â Sgwâr Tiananmen

Mae myfyrwyr o’n Côr Siambr newydd ddychwelyd o daith dair wythnos yn Tsieina lle cawsant ymweld a chynnal perfformiadau mewn prifysgolion mewn pedair dinas.

Yn ystod eu hamser yn Tsieina ymwelodd y 28 o fyfyrwyr, yng nghwmni arweinydd y côr Dr Peter Leech, â Phrifysgol Gwleidyddiaeth a Chyfraith y Gogledd Orllewin yn Xi’an, Prifysgol Normal De Tsieina yn Guangzhou, Coleg Celf Prifysgol Xiamen, a Phrifysgol Normal Beijing. Yn ogystal â pherfformio cyngherddau o’u repertoire eu hunain, fe wnaeth y côr hefyd berfformio ar y cyd â chorau’r prifysgolion a oedd yn eu croesawu.

Treuliodd y myfyrwyr amser hefyd yn archwilio’r pedair dinas, gan ddysgu am hanes a thraddodiadau Tsieina. Roedd hyn yn cynnwys mordaith gyda’r hwyr ar Afon Pearl Guangzhou, ymweld â’r Fyddin Terracotta, Sgwâr Tiananmen, y Ddinas Waharddedig yn Beijing, a dringo’r Mur Mawr.

Perfformiodd y côr ddarnau gan gynnwys cyfansoddiadau wedi’u datgelu’n ddiweddar gan y gyfansoddwraig Gymreig Morfydd Owen, cân werin Tsieineaidd Mo Li Hua, a darnau gan Sebastian Bolis, Dmitry Bortniansky a Charles Hubert Parry.

Meddai Dr Peter Leech wrth siarad cyn y gyngerdd derfynol yn Beijing: “Un o brofiadau gwych y daith hon yw’r cyfle i berfformio gyda chorau Tsieineaidd. Rydym ni wedi dysgu llawer am yr iaith, sut maen nhw’n perfformio’r gerddoriaeth, ac rydym ni hefyd wedi dod ag ychydig o’n repertoire ni iddyn nhw.

“Mae wedi bod yn uchafbwynt gwych i mi yn arbennig i gael dod ag ychydig o gerddoriaeth a gyfansoddwyd gan gyfansoddwr Jeswit Ffrengig yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a aethpwyd i Tsieina wedi hynny gan y Jeswitiaid yn y deunawfed ganrif a’i pherfformio yn Beijing fel ffordd o gyflwyno polyffoni Ewropeaidd i gantorion Tsieineaidd.

“Dros gyfnod y daith mae wedi bod yn brofiad cerddorol sydd wedi ein clymu a’n cyfoethogi ni’n fawr fel tîm. Rydym ni wedi gallu cyfuno ein swn corol yn un elfen gyfunedig hardd. Rydym ni hefyd wedi llwyddo i ddysgu sawl darn ar gof sydd wedi galluogi’r côr i gysylltu â’r cynulleidfaoedd go iawn. Mae’r perfformiadau hyn wedi bod yn wirioneddol syfrdanol.”

Meddai Matt Nicholls, myfyriwr yn ei flwyddyn olaf, am y daith “Mae treulio cymaint o amser yn canu gyda’n gilydd, weithiau pedair neu bum awr y dydd, o’i gymharu â’n hymarferion arferol ni o ddwy i dair awr yr wythnos, wedi golygu ein bod ni wir wedi dod at ein gilydd fel côr, ac wedi gwella ein hamseru.

“I mi, mae hwn wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn ac yn ffordd wych i ddod a fy nghyfnod fel myfyriwr israddedig i ben yng Nghaerdydd. Dyma’r tro cyntaf i mi adael Ewrop, felly mae hi wedi bod yn dipyn o brofiad.”

Hefyd yn ymuno â’r côr yn Tsieina oedd Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Kenneth Hamilton, a roddodd ddosbarth meistr mewn piano i fyfyrwyr yng Ngholeg Celf Prifysgol Xiamen.

Yn ystod y daith, daeth Dr Cameron Gardner a Dr Clair Rowden hefyd i ymweld â Tsieina, gan gwrdd â chynrychiolwyr o brifysgolion Tsieina gan gynnwys Prifysgol Normal Beijing i drafod cydweithio yn y dyfodol, cytundebau presennol, ac addysgu, perfformio ac ymchwil yn yr Ysgol Gerddoriaeth.

Gwyliwch fideo o gyfnod y côr yn Tsieina.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.