Ewch i’r prif gynnwys

Haf o gerddoriaeth yn Java, Indonesia

7 Awst 2018

Cardiff University Gamelan Ensemble at Institut Seni Indonesia Surakarta
Yr ensemble gyda'u hyfforddwyr ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Surakarta Indonesia

Yn ddiweddar, dychwelodd deunaw o fyfyrwyr o'r Ysgol Cerddoriaeth yn dilyn taith tair wythnos i Java.

Treuliodd y myfyrwyr, pob un yn aelod o ensemble gamelan yr Ysgol, Nogo Abang, eu hamser yn astudio a pherfformio gamelan. Buon nhw hefyd yn crwydro o gwmpas dinas Surakarta, eu cartref drwy gydol eu taith.

O dan arweiniad arweinydd ensemble'r gamelan, Jonathan Roberts, cafodd y myfyrwyr wersi ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Surakarta, Indonesia. Buon nhw hefyd yn perfformio gyda nifer o grwpiau gamelan lleol yn y farchnad leol ac un o swyddfeydd y gwasanaeth sifil.

Yn ystod eu hamser yn Java, fe wnaeth y grŵp hefyd ymweld â themlau'r mynyddoedd, perfformiadau cysgod pyped, a pherfformiadau dawns ym Mhalas Mankunegaran. Maent hefyd wedi treulio amser yn dysgu am fwyd, marchnadoedd a diwylliant y ddinas.

Uchafbwynt y daith i lawer o'r myfyrwyr oedd perfformio ar gyfer digwyddiad Halal-bi-Halal, a gyflwynwyd gan raddedigion ysgol iaith y palas, a fynychwyd gan aelodau o deulu Brenhinol Surakarta.

Gamelan ensemble performing in Pangudi Luhur primary school, Surakarta, Java
Perfformio yn ysgol gynradd Pangudi Luhur

I orffen eu taith, aeth y myfyrwyr i ymweld ag ysgol gynradd Pangudi Luhur i berfformio ac ymarfer gamelan gyda'r myfyrwyr ifanc.

Dyma beth oedd gan Megan Auld i’w ddweud am ei phrofiad, "Y flwyddyn nesaf byddaf yn cwblhau prosiect mawr ar fenywod mewn gamelan fel rhan o fy astudiaethau ethnogerddoleg. Rhoddodd y daith i Java gymaint o wybodaeth a syniadau ar gyfer fy mhrosiect, ac roedd hefyd yn ffordd wych o gwrdd â phobl.

"Roedd y golygfeydd a welsom yn anhygoel, a chefais gymaint o gyfleoedd sy’n codi unwaith yn unig mewn oes. Roedd y tîm o staff ar y daith yn gwbl wych; roedd Jonathan yn rhagorol am drefnu popeth."

Clywed beth oedd gan y myfyrwyr i'w ddweud am eu taith.

Mae mwy o luniau ar gael ar dudalen Facebook yr Ysgol Cerddoriaeth.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd cynhalgar lle gall myfyrwyr a staff weithio gyda’i gilydd ar amrywiaeth mawr o feysydd ysgolheictod cerddorol, cyfansoddi a pherfformio.