Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr ar lefel y DU gyfan i’r Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd

28 Mehefin 2019

Wyn Meredith and Rob Harper, CSC, Insider Made in the UK Awards
Wyn Meredith a Rob Harper, CSC, Seremoni Wobrwyo ‘Gwnaed yn y DU’ Insider Media.

Mae menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac IQE plc i ddatblygu technolegau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) wedi ennill ‘Cydweithrediad Gorau’ yn Seremoni Wobrwyo ‘Gwnaed yn y DU’ Insider Media.

Enillodd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Cyfyngedig – sy’n gweithio’n agos gyda Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (ISC) y Brifysgol – y teitl am ei gwaith i ddatblygu clwstwr technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n flaengar ar lefel fyd-eang yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae’r Ganolfan yn gweithio gyda phartneriaid sy’n cynnwys IQE, SPTS, Microsemi, Newport Wafer Fab, Prifysgol Abertawe, Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

Mae clwstwr de Cymru, a lansiwyd yn 2015, wedi sicrhau ymrwymiadau buddsoddi gwerth dros £600 miliwn ar gyfer arloesedd a chyfleusterau gweithgynhyrchu at ddibenion gwasanaethau, gan gynnwys telathrebu, electroneg bŵer, synhwyro, gofal iechyd a thechnolegau cwantwm.

Dywedodd Dr Wyn Meredith, Cyfarwyddwr Reolwr y Ganolfan: “Anrhydedd o'r mwyaf yw derbyn y wobr urddasol hon, sy’n dathlu cydweithio cryf rhwng byd diwydiant ac academia. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleusterau arloesol sy'n helpu ymchwilwyr a'r diwydiant i gydweithio, ac mae’n helpu Caerdydd i ennill ei phlwyf fel arweinydd y DU ac Ewrop o ran technoleg ym maes LlC. Mae’r wobr hon yn dystiolaeth o bwysigrwydd cynyddol ein sector diwydiannol i’r economi rhanbarthol.”

Dywedodd yr Athro Karen Holford, y Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd: “Mae’r Brifysgol wrth ei bodd bod cyflawniadau’r Ganolfan wedi’u cydnabod ar lwyfan i’r DU gyfan. Lansiwyd y Ganolfan yn 2015 er mwyn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid drwy Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Caerdydd. Yn ddiweddar, arweiniodd y Ganolfan gonsortiwm ledled y DU gwerth £1.3 miliwn i ddatblygu cymwysiadau pŵer Galiwm Nitrid ar gyfer cerbydau trydan...”

“Mae’n parhau i arwain y byd ag arloesiadau sy’n helpu byd diwydiant i greu swyddi o safon uchel â chyflogau da er mwyn denu cyfoeth i Gymru.”

Yr Athro Karen Holford Professor

Mae’r Ganolfan yn gweithio i ddatblygu technolegau deunyddiau newydd arloesol fydd yn galluogi amrywiaeth eang o ddefnyddiau newydd a rhai sydd ar gynnydd. Ei nod yw cynnig cadwyn gyflawn o werth gallu, o ymchwil flaengar ar lefel fyd-eang a datblygiadau drwy arloesi cynhyrchion a phrosesau, i weithgynhyrchu gwerth uchel ar raddfa fawr.

Dyma gyfleuster rhagbrofi cyntaf Ewrop sy’n galluogi busnesau ac academyddion i arddangos technolegau newydd sy’n seiliedig ar ddeunyddiau lled-ddargludyddion cyfansawdd fydd yn barod i’w gweithgynhyrchu – bydd hyn yn hwyluso llwybrau cyflym at y farchnad i entrepreneuriaid ac arweinwyr technolegol.

Rhannu’r stori hon

The institute provides cutting-edge facilities to help researchers and industry work together.