Ewch i’r prif gynnwys

Fydd Cymru yn arwain y gad yn erbyn llygredd plastig?

20 Mehefin 2019

bottleriver

Cyfwelodd BBC Wales â’r Athro Steve Ormerod a Dr Ifan Jâms i drafod adroddiad diweddar gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch llygredd plastig.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig adroddiad am bolisïau a chynigion ynglŷn â llygredd plastig a gwastraff pecynnau.

Cyflwynodd yr Athro Steve Ormerod a myfyriwr PhD Fred Windsor, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ac aelod cysylltiedig o Sefydliad Ymchwil Dŵr Caerdydd, eu hymchwil i’r pwyllgor y llynedd. Canfu eu hastudiaeth, a ddyfynnwyd yn yr adroddiad, fod plastig yn bresennol yng nghyrff hanner yr holl bryfed yn system afon Taf.

Mae Aelodau Seneddol bellach yn annog Llywodraeth Cymru i osod targedau newydd i fynd i’r afael â gwastraff plastig a llygredd microblastigau yng Nghymru. Maent yn argymell cynllun strategol 10 mlynedd i leihau’r defnydd o blastig, gan gynnwys ymyriadau fel cynllun dychwelyd ernes, cyfrifoldeb estynedig ar y cynhyrchydd a threth ar becynnau plastig.

Meddai Mike Hedges AS, Cadeirydd y Pwyllgor: ‘Llygredd plastig yw un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu ein planed. Ni all Cymru ateb y broblem fyd-eang hon ar ei phen ei hun, ond ni allwn aros mwyach, mae’n bwysig ein bod yn dod i’r adwy ac arwain lle mae modd.

Ni allwn golli diwrnod arall. Dyma’r adeg i weithredu.’

Ar ôl cyhoeddi eu hadroddiad, cafodd yr Athro Steve Ormerod a Dr Ifan Jâms gyfweliad â BBC Wales.

Cyfweliad â’r Athro Steve Ormerod

Cyfweliad â Dr Ifan Jâms

Rhannu’r stori hon

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Sefydliad Ymchwil Dŵr.