Ewch i’r prif gynnwys

‘Llwyddiant’ iechyd y geg yn Namibia

17 Mehefin 2019

Kids in Namibia

Mae tîm deintyddol o Brifysgol Caerdydd wedi cwblhau archwiliadau iechyd y geg mewn ysgolion cynradd a chartrefi plant amddifad yn Namibia.

Treuliodd yr uwch-ddarlithydd clinigol Dr Ilona Johnson a phedwar o'i myfyrwyr deintyddol blwyddyn olaf bythefnos yn Namibia yn rhan o Brosiect Phoenix y Brifysgol.

Casglwyd data yn y brifddinas Windhoek a rhannau anghysbell o ogledd Namibia ac maent yn gobeithio bydd y gwaith hwn yn dylanwadu ar bolisi.

“Ein nod oedd ceisio cyrraedd y lleoedd mwyaf anghysbell er mwyn cael yr effaith fwyaf”, meddai Dr Johnson.

Defnyddiodd y tîm gemau a chaneuon hwyliog i helpu addysgu'r plant am bwysigrwydd iechyd y geg.

Aeth Pennaeth Deintyddiaeth Ysbyty Dr Katutura, Dr Nguundja Uamburu, gyda thîm Caerdydd yn ystod eu gwaith.

Dywedodd: “Mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn gwneud gwahaniaeth mawr yn Namibia gan ein bod wedi casglu data da iawn.”

Mae Prosiect Phoenix yn bartneriaeth lwyddiannus rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia sy'n canolbwyntio ar addysg ac ymchwil mewn meysydd fel TG, mathemateg, iechyd a chyfathrebu.

Mae'n rhan o genhadaeth ddinesig y Brifysgol i wella addysg, iechyd, cyfoeth a lles mewn cymunedau yng Nghymru a thu hwnt.

Rhannu’r stori hon

Yr Ysgol yw unig ysgol ddeintyddiaeth Cymru, sy’n cynnig arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil ddeintyddol, addysgu a gofal i gleifion.