Ewch i’r prif gynnwys

Camera Caerdydd yn gweld trwy ochrau tryciau

13 Mehefin 2019

Camera truck collage

Mae camera a ddatblygwyd gan astroffisegwyr sy’n synhwyro gwres ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael ei ddefnyddio i sylwi ar bobl ac anifeiliaid yng nghefn tryciau a lorïau sy’n symud.

Mae’r dechnoleg, sy’n cael ei gyflwyno i’r farchnad gan Sequestim Ltd, yn gweithio trwy ddefnyddio synwyryddion manwl gywir – wedi’u dylunio’n wreiddiol i fapio sêr pell – i ganfod newidiadau bychain mewn ymbelydredd a gwres.  

Mae camera’r sganiwr yn defnyddio ‘synwyryddion anwythedd cinetig’ sy’n gallu helpu i ganfod yr hyn sy’n cyfateb i wres bwlb golau 100 watt ar bellter hanner miliwn milltir – dwbl pellter y lleuad o’r Ddaear.

Mae llun a dynnwyd gan ddyfais Sequestim o dryc yn symud heibio i synhwyrydd ar gyflymder o hyd at 100mph yn dangos siapau cyrff sydd wedi’u cuddio yng nghefn y cerbyd yn glir.

Gall y dechnoleg, a arloeswyd gan ymchwilwyr yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, gael ei gosod mewn porthladdoedd fferi yn rhyngwladol, gan gyflymu’r broses archwilio.

Mae Sequestim Ltd hefyd yn datblygu sganwyr maes awyr sy’n galluogi teithwyr i gerdded trwy’r man diogelwch heb oedi na gorfod tynnu eitemau o ddillad na metel. Cynhaliwyd treial a gafodd gyhoeddusrwydd eang ym Maes Awyr Caerdydd fis Rhagfyr diwethaf.

Rhagwelir y bydd technoleg Caerdydd yn galluogi o leiaf pedair gwaith mwy o deithwyr i fynd trwy wiriadau diogelwch, gan gynnig gwelliannau helaeth o ran effeithlonrwydd meysydd awyr, arbedion ariannol a theithwyr mwy bodlon. Mae mwy na 40,000 o feysydd awyr ledled y byd.

Gellir hefyd defnyddio technoleg Sequestim mewn derbynfeydd busnesau, banciau, canolfannau trafnidiaeth gyhoeddus, stadia chwaraeon ac mewn gwyliau.

Dywedodd Paul Simmons, Prif Weithredwr Sequestim: “Mae’r farchnad ar gyfer y dechnoleg yn enfawr ac mae cannoedd o ffyrdd y gallai gael ei defnyddio.  Rydym yn siarad â chwsmeriaid a buddsoddwyr posibl ar hyn o bryd.  Nawr bod gennym brototeipiau sy’n gweithio ac wedi’u profi, ein nod yw dechrau anfon yr unedau cyntaf at gwsmeriaid yn 2020.”

Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: “Mae llwyddiant y camera yn dangos ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i arloesedd – gan droi syniadau ymchwil yn ddiwydiannau, cwmnïau deillio a busnesau newydd sy’n gallu helpu i yrru diwydiant a dod â swyddi a ffyniant cymdeithasol ehangach i Gymru.”

Mae’r dechnoleg yn cydymffurfio â gweithdrefnau a phrotocolau ynghylch amddiffyn hunaniaeth.

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.