Ewch i’r prif gynnwys

Sganiwr teithwyr newydd sy’n defnyddio technoleg ar gyfer y gofod i gyflymu'r broses ddiogelwch mewn meysydd awyr

4 Rhagfyr 2018

Airport queue

Mae sganiwr teithwyr tra-sensitif, sy’n datgelu bygythion cudd, yn cael ei dreialu ym Maes Awyr Caerdydd.

Wrth i bobl gerdded drwy'r sganiwr, defnyddir technoleg ar gyfer y gofod i ddelweddu gwres eu corff. Mae'r sganiwr yn ffrwyth cydweithrediad rhwng Sequestim Ltd. a gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd.

Mae dysgu cyfrifiadurol yn gadael i’r sganiwr ganfod bygythion heb fod angen i deithwyr gadw’n stond neu dynnu dillad allanol.

Ar draws y byd, mae tua 12 miliwn o bobl yn teithio ar awyrennau bob dydd ar 120,000 o hediadau.

Gallai’r dechnoleg hon gwtogi ciwiau mewn terfynfeydd awyrennol drwy sganio teithwyr wrth iddynt gerdded drwy’r sganiwr. Hefyd, bydd yn hybu effeithiolrwydd gwasanaethau diogelu ac o ganlyniad, diogelwch teithwyr.

“Disgwylir i nifer y teithwyr ddyblu ymhen ugain mlynedd gan roi straen mawr ar gyfleusterau diogelwch meysydd awyr,” meddai Ken Wood, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata Sequestim Ltd, sy’n fenter ar y cyd rhwng Phrifysgol Caerdydd a QMC Instruments Ltd.

"Mae ein sganiwr yn cyfuno nifer o dechnolegau arloesol y mae ein tîm wedi’u datblygu yma yn y DU. Mae’n defnyddio’r corff dynol fel ffynhonnell o “olau”, yn wahanol i'r sganwyr presennol sy’n prosesu tonnau milimetr wedi’u hadlewyrchu a’u gwasgaru, tra bod y teithiwr yn cynnal ystum arbennig.”  

“Eiliadau'n unig sydd eu hangen ar ein system i wneud ei gwaith. Ni fyddai angen i deithwyr sy'n cerdded drwy'r sganiwr diogelwch dynnu cotiau, siacedi nac eitemau personol fel ffonau.”

Airport scanner operating

Cynhelir y prawf yn breifat drwy wahoddiad yn unig, rhwng 4 a 7 Rhagfyr 2018 ac ni fydd yn effeithio ar deithwyr.

Mae’r prosiect yn un o wyth i gael rhywfaint o’r £1.8 miliwn o gyllid oedd ar gael gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni drwy gystadleuaeth o’r thema Cyflymu Gwaith Amddiffyn a Diogelu. Mae’r fenter, sy’n rhan o raglen bum-mlynedd Atebion ar gyfer Diogelwch Awyrennau at y Dyfodol (FASS), yn werth miliynau o bunnoedd. Mae’n chwilio am syniadau arloesol fel y sganiwr teithwyr newydd hwn i helpu i gryfhau diogelwch awyrennau.

Yn wreiddiol, cafodd y dechnoleg hon ei datblygu i astudio pellafoedd y bydysawd ac mae mor sensitif fel y gallai weld bwlb golau 100W o 500,000 o filltiroedd i fwrdd (ddwywaith y pellter i’r Lleuad.)

https://youtu.be/nuFw7HL_jp0

Mae’r sganiwr yn dysgu’n gyflym sut i wahaniaethu rhwng eitemau a ganiateir ar awyrennau a’r rhai na chaniateir. Bydd hyn yn lleihau’r risg o larymau di-sail sy’n aflonyddu ar deithwyr ac yn amharu ar sgrinio.

“Yn y lle cyntaf, cafodd technoleg y canfodydd ei datblygu i astudio’r ffenomenau seryddol mwyaf pellennig. Er enghraifft, rydym yn astudio sut mae sêr yn cael eu geni o gymylau anferth o nwy a llwch,” esboniodd Mr Wood.

"Mae'n canfod tonnau milimetr, sydd fel golau gweladwy ond â thonfedd sydd dros fil gwaith yn hirach. Mae gallu’r sganiwr i ddatgelu gwrthrychau cudd wedi tynnu sylw Llu’r Ffiniau, sy’n gyfrifol am reoli’r ffiniau mewn meysydd awyr, pyrth a therfynfeydd trên.

Amlygir unrhyw eitemau cudd yn glir iawn ar ffurf cysgod, achos mae gwres y corff dynol yn gweithio fel bwlb golau i’r sganiwr. Nid yw’r sganiwr newydd yn cyflwyno unrhyw broblemau moesegol achos nid yw unrhyw nodweddion anatomegol yn ymddangos. Pan ddefnyddir y dechnoleg yn go iawn, ni fydd angen i unrhyw un weld y delweddau achos bydd y system yn gweithio’n hollol awtomatig.

Ken Wood

Nod y treial maes awyr yw profi bod delweddu teraherts goddefol yn gadarn, amlbwrpas, cyflym a chyfleus.

Dywedodd Liz Sugg, Gweinidog Hedfanaeth y DU: "Mae gennym hanes balch o arloesi yma yn y DU ac mae diogelwch teithwyr ar draws pob modd o deithio’n parhau i fod yn flaenoriaeth bwysig i'r Llywodraeth. Mae’r rhaglen Atebion ar gyfer Diogelwch Awyrennau at y Dyfodol yn enghraifft o'n cefnogaeth i brosiectau arloesol all leihau bygythiadau i ddiogelwch ym meysydd awyr. Rwy’n falch o weld bod y cyllid a roddwyd i Sequestim wedi helpu’r tîm i fanteisio ar dechnoleg ar gyfer y gofod a’i threialu’n rhan o system newydd o sgrinio teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd.”

Prynodd Llywodraeth Cymru Faes Awyr Caerdydd am £52 miliwn yn 2013. Pasiodd bron i 1.5 miliwn o deithwyr drwy’r maes awyr yn 2017. Mae treialu’r sganiwr teithwyr ym mis Rhagfyr yn cynrychioli cam cwbl arloesol i Gymru a menter gydweithredol leol allai gael effaith enfawr.

Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: "Mae Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Caerdydd wrth eu bodd yn cynnal y treial i brofi cysyniad a thechnoleg arloesol Sequestim. “Mae’r camera diogelwch blaengar hwn yn addo gwella ein profiad o hedfan yn sylweddol yn ogystal â chreu rhagor o swyddi, gan mai gweithgynhyrchu sganwyr yma yng Nghymru yw nod Sequestim.”

Dywedodd Ceri Mashlan, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Maes Awyr Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o groesawu'r prosiect cyffrous hwn i Faes Awyr Caerdydd ac am gael ein dewis i dreialu'r dechnoleg newydd arloesol hon. Mae'n sicr yn drawiadol i weld y prosiect hwn, sydd wedi cael ei ddatblygu yng Nghymru, a braint yw arddangos yr offer ym maes awyr cenedlaethol y wlad. Mae cynnal diogelwch yn hanfodol yn y diwydiant awyrennau, felly rydym yn croesawu'r cyfle i hyrwyddo ffyrdd arloesol o hybu datblygiadau mewn chwiliadau diogelwch a gwelliannau mewn effeithlonrwydd ar draws pob maes awyr."

Diben y treial yw rhoi cyfle i brif aelodau’r diwydiant, y Ganolfan ar gyfer Diogelu Seilwaith Cenedlaethol, yr Awdurdod Hedfan Sifil a chyrff eraill y llywodraeth, gan gynnwys Llu’r Ffiniau, weld y dechnoleg ar waith.

Rhannu’r stori hon

Yma, cewch wybod sut mae ein rhagoriaeth ym meysydd ymchwil, trosglwyddo technoleg, datblygu busnesau a mentrau myfyrwyr, yn arwain ein gweledigaeth.