Ewch i’r prif gynnwys

Diffyg cymorth ar gyfer oedolion sy’n agored i niwed yn nalfa’r heddlu

3 Mehefin 2019

Person in handcuffs

Mae oedolion sy’n agored i niwed yn nalfa’r heddlu’n wynebu loteri côd post o ran a ydynt yn cael y gefnogaeth iawn, meddai academydd.

Treuliodd Dr Roxanna Dehaghani o Brifysgol Caerdydd chwe mis yn arsylwi gweithdrefnau yn nalfeydd yr heddlu, ac mae’r gwaith hwn yn sail i’w llyfr, Vulnerability in police custody: police decision-making and the appropriate adult safeguard.

Mae oedolion priodol yn cynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth i bobl dan amheuaeth sydd hefyd yn agored i niwed, drwy gydol eu cyfnod yn y ddalfa ac yn ystod eu cyfweliadau. Eu nod yw gwneud yn siŵr bod pobl yn deall beth sy’n digwydd a bod eu hawliau cyfreithiol a’u lles wedi’u diogelu.

Fis Gorffennaf y llynedd, arweiniodd ymchwil Dr Dehaghani, a ddangosodd nad oedd rhingyllod dalfeydd yn rhoi camau diogelu priodol ar waith ar gyfer oedolion (AA), at ddiwygiadau i arweiniad y Swyddfa Gartref.

Mae ffigyrau newydd gan Rwydwaith Cenedlaethol Oedolion Priodol (NAAN), yn dangos bod yr angen a gofnodwyd am oedolyn priodol ymysg lluoedd yr heddlu wedi cynyddu o fod yn angenrheidiol ar gyfer 3% o’r bobl yn y ddalfa yn 2015, i 6% dros flwyddyn a ddiweddodd ym mis Mawrth 2018. Roedd y gyfradd hon o gynnydd yn amrywio’n sylweddol rhwng lluoedd, ac mewn gwirionedd, cofnodwyd gostyngiad gan rai ohonynt. Mae astudiaethau’n awgrymu y gallai fod angen presenoldeb oedolyn priodol ar hyd at 39% o oedolion sy’n cael eu cadw yn y ddalfa neu eu cwestiynu.

Roedd yr adroddiad, There to Help 2, hefyd yn dangos nad oedd mynediad at gynllun oedolyn priodol trefnedig gan 16% o boblogaeth Cymru a Lloegr

Yn ôl Dr Dehaghani, o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth: “Mae’r ffigyrau diweddaraf hyn yn dangos y bu angen diwygio’r arweiniad er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl oedolion sy’n agored i niwed yn cael y gefnogaeth gywir. Ond y broblem fwyaf o bosibl yw’r ffaith nad oes dyletswydd statudol o hyd ar unrhyw asiantaeth i ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hyn. Mae’r ddarpariaeth ar draws Cymru a Lloegr yn amrywio o hyd.”

Gallai pobl sy’n agored i niwed ei chael hi’n anodd deall, neu gyfathrebu, neu gallent roi gwybodaeth annibynadwy neu dderbyn awgrymiadau’n anfwriadol. Efallai bydd un o amrywiaeth o gyflyrau, fel iechyd meddwl, anawsterau dysgu neu awtistiaeth wrth wraidd hyn.

Meddai Chris Bath o Rwydwaith Cenedlaethol Oedolion Priodol (NAAN): “Er budd neb y mae dinistrio bywydau pobl ddieuog, neu adael i bobl euog osgoi euogfarnau oherwydd methiant i wneud yn siŵr bod pobl sy’n agored i niwed â chyflyrau meddyliol yn cael cefnogaeth gan oedolyn priodol. Mae’n rhaid i’r heddlu ymlynu wrth eu dyletswydd i ddefnyddio oedolyn priodol. Mae’n deg, iddyn nhw ac i bobl sy’n agored i niwed, ein bod yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau priodol i oedolion ym mhob ardal.”

Roedd Dr Dehaghani yn rhan o Weithgor y Swyddfa Gartref ar gyfer Oedolion sy’n Agored i Niwed, a gafodd y dasg o fynd i’r afael â’r ffaith nad oedd camau priodol yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu oedolion.  Fis Gorffennaf y llynedd, cafodd Côd C Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (PACE) ei newid, gan olygu bod mwy o gyfrifoldeb ar swyddogion y ddalfa i ganfod a yw pobl yn agored i niwed, a newid sut y diffinnir ‘agored i niwed’.

Hefyd, crynhodd gronfa o dystiolaeth ar gyfer Safonau Cenedlaethol NAAN sydd wedi’u diweddaru - sy’n cynnig arweiniad ac awgrymiadau ar gyfer oedolion priodol.

Ychwanegodd Dr Dehaghani: “Mae’r ymchwil yn dangos bod gan luoedd yr heddlu sydd â mynediad gwell at gynlluniau trefnedig a phriodol ar gyfer oedolion gyfraddau sylweddol o uwch o ganfod pobl sy’n agored i niwed na’r lluoedd sydd heb y mynediad hwn. Mae’r diffyg darpariaeth strwythuredig, a sbardunwyd gan bwysau ar gyllid llywodraeth leol, a diffyg eglurdeb ynghylch pwy sy’n gyfrifol drosto, heb ei ddatrys o hyd.”