Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabod effaith y cymwynaswyr ar brofiad y myfyrwyr

24 Mai 2019

Sir Stanley and students
L-R: Richard Hobbs, Harry Thorpe, Sir Stanley Thomas OBE, Camille Stanley, Naomi Owen, Samuel Stainton, Mohammed Binesmeal

Mae'r dyngarwr Syr Stanley Thomas OBE (Anrhydedd 2011) newydd cael ei gydnabod mewn digwyddiad sy'n dangos dyfodol gwasanaethau cefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, o feysydd gyrfaoedd a chyflogadwyedd i les.

Yn ystod blwyddyn academaidd eleni, addawodd Syr Stanley y rhodd fwyaf y mae un person erioed wedi’i rhoi i Brifysgol Caerdydd hyd yma. Bydd y rhodd nodedig o £1.1m yn ariannu awditoriwm 550 sedd o'r radd flaenaf sy'n dwyn ei enw, yn yr adeilad newydd, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Dywedodd Syr Stanley: "Yn ogystal â bod yn sefydliad blaenllaw yng Nghymru a'r byd ehangach, mae Prifysgol Caerdydd hefyd wedi ymrwymo i arwain y ffordd o ran cefnogi myfyrwyr yn y DU. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr yn cynyddu ei chryfderau ymhellach yn y maes hwn. Bydd yn helpu i sicrhau bod pob myfyriwr, beth bynnag ei gefndir, yn gallu cael gwasanaethau cefnogi hanfodol ac yn gallu ffynnu yn ystod ei astudiaethau.

Bydd yr adeilad, pan fydd yn agor yn 2020-21, yn sicrhau bod gwasanaethau cefnogi myfyrwyr llwyddiannus Prifysgol Caerdydd hyd yn oed yn fwy cynhwysol, hygyrch a chyfleus.  Bydd yn cynnwys mannau tawel i fyfyrio, ystafelloedd ymgynghori a mannau astudio cymdeithasol newydd.

Dathlwyd y cynlluniau a chyfraniad Syr Stanley mewn digwyddiad a gynhaliwyd gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan.
Cafodd gwesteion enwog a rhai o fyd chwaraeon, gwleidyddiaeth a busnes glywed am yr effaith y mae gwasanaethau o'r fath yn ei chael ar fyfyrwyr presennol sy'n cael amrywiaeth o fathau o gymorth.

Yn y digwyddiad, dywedodd Richard Hobbs (Seicoleg Glinigol 2016 -): "Rydw i wedi cael cefnogaeth anhygoel ar gyfer dyslecsia yng Nghaerdydd. Mae wedi rhoi hyder anhygoel i mi. Mae wedi fy ngalluogi i dderbyn bod dyslecsia yn fantais yn hytrach na phroblem, ac mae’n gallu achub bywydau.  Mae'r hyder a gefais wedi fy helpu i gael swydd ym maes oncoleg bediatrig fel seicolegydd clinigol.”

Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Heb os, bydd cefnogaeth Syr Stanley yn cael effaith drawsnewidiol ar nifer enfawr o fyfyrwyr, y Brifysgol, Caerdydd a Chymru.”  Mae'n bleser dathlu ei haelioni gyda chymuned Caerdydd a thu hwnt.”

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am sut mae Prifysgol Caerdydd wedi cael budd o fod â ffrindiau a chefnogwyr hael fel chi.