Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Gaerdydd yn ennill gwobr dreftadaeth fawreddog

24 Mai 2019

Spanish Palace

Dyfarnwyd Gwobr Dreftadol Ewropeaidd, sef gwobr fwyaf mawreddog Ewrop yn y maes, i Dr Federico Wulff, Darlithydd Dylunio Pensaernïol a Threfol o Ysgol Pensaernïaeth Cymru, am adfer Betws y Llys Partal yn yr Alhambra (Granada, Sbaen).

Hefyd, cymerodd Melina Guirnaldos, myfyriwr a thiwtor PhD ran yn y prosiect arobryn ar Fetws y Llys Partal yn yr Alhambra, a hithau’n bartner i’w swyddfa, Penseiri W+G.

Mae Betws y Llys Partal yn fosg palatin preifat o fewn cyfadeilad yr Alhambra a adeiladwyd yn ystod teyrnasiad y Swltan Yusuf I am ei ddefnydd preifat. Gyda Thai Arabig y Llys Partal a Thŷ Astasio de Bracamonte, mae’r rhain yn ffurfio cyfres o adeiladau oedd yn rhan hanfodol o fywyd beunyddiol canoloesol y Llys Partal.

Cafodd rhaglen adfer, a arweiniwyd gan Dr Wulff, ei chomisiynu gan Gronfa Henebion y Byd a Her Robert W. Wilson, a chafodd ei chwblhau ym mis Mehefin 2017. Roedd y prosiect yn cynnwys adfer fframiau pren addurnedig, nenfydau, mynedfeydd a choridorau, yn ogystal ag adfywio’r parwydydd addurnedig.

Datgelodd y prosiect arysgrifau o’r 14fed ganrif nad oeddem yn gwybod amdanynt o’r blaen, elfennau addurnol ac atebion technegol nad oeddem yn gwybod eu bod yn cael eu defnyddio yn yr Alhambra cyn yr adferiad hwn.

O ganlyniad, mae’r prosiect wedi hybu ein dealltwriaeth o dechnegau adeiladu seiri Hispano-Fwslimaidd a seiri maen meistr llysoedd yr Alhambra yn y 14fed ganrif, yn ogystal ag atgyweiriadau ac adferiadau hanesyddol dilynol i’r adeilad treftadol pwysig hwn.

Gwnaeth y panel beirniadu sylw: “Mae’r safle hwn yn cynrychioli rhan bwysig o hanes rhyngddiwylliannol Ewrop. Mae ei adferiad, sy’n enghraifft wych o bartneriaeth dreftadol preifat-cyhoeddus, yn seiliedig ar ymchwil drylwyr, ryngddisgyblaethol a gwyddonol ac mae wedi datgelu manylion pellach ynghylch technoleg adeiladu a saernïo Nasrid. Mae’n arddangos cyfoeth ac amrywiaeth y deunyddiau a ddefnyddiwyd ac mae’n parchu’r ymyriadau blaenorol ar yr adeilad.”

Spanish palace 2

Mae Dr Federico Wulff yn Ddarlithydd Dylunio Pensaernïol a Threfol yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ynghyd ag ymchwilydd Ewropeaidd ac yn ymarferydd arobryn. Fe yw Cyfarwyddwr y Cwrs Meistr Dylunio Pensaernïol (MA AD).

Wrth sôn am y wobr, dywedodd Dr Wulff: “Mae’r agweddau arloesol ar yr arferiad hwn, ei gysylltiadau agos â’m hymchwil academaidd a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd, pensaernïaeth syncreatig yr adeilad canoloesol hwn a’r ffaith bod Betws y Llys Partal yn ymgorffori dulliau adfer pwysicaf Sbaen dros y 170 o flynyddoedd diwethaf, wedi arwain at gael cydnabyddiaeth ar lefel uchaf Ewrop am ein gwaith.”

Mae cyfadeilad treftadol yr Alhambra yn cael ei ystyried fel y safle treftadol pwysicaf yn Sbaen, ac yn un o safleoedd UNESCO sy’n denu’r mwyaf ymwelwyr ers cael ei restru ym 1984. Dechreuwyd y gwaith adeiladu yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg gan Muhammad al-Ahmar (1195 –1273) o dan deyrnasiad Emir cyntaf Teyrnas Granada.

Y nod fu adeiladu cyfadeilad oedd yn cynnwys llys a chaer filwrol i’r teyrnasiad Hispano-Fwslimaidd Nasrid a oedd newydd gael ei sefydlu. Ganrif yn ddiweddarach, cafodd mwyafrif yr Alhambra ei gwblhau yn ystod teyrnasiadau’r Swltaniaid Yusuf I (1333-1354) a’i fab Muhammad V (1354 – 1391).

Lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd y Gwobrau Treftadol Ewropeaidd/ Europa Nostra yn 2002, ac Europa Nostra sy’n eu cynnal ers hynny. Maent yn dathlu ac yn hyrwyddo’r arferion gorau o ran cadw a chynnal, ymchwilio, rheoli, gwirfoddoli, addysgu a chyfathrebu ynghylch treftadaeth.

Hefyd, mae’r adferiad hwn wedi cael ei ddewis ar gyfer Grand Prix Europa Nostra 2019, gyda dau brosiect arobryn arall. Bydd y Grand Prix 2019 yn cydnabod yr arferiad gorau yn Ewrop eleni. Cyhoeddir enillydd cyffredinol yn y seremoni wobrwyo ar 29 Hydref ym Mharis.  Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, fydd yn ei chynnal a’r canwr Opera Placido Domingo, Llywydd Europa Nostra fydd yn cyflwyno’r wobr.

https://youtu.be/Zn0NG8qgG5A

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol hon yn unigryw oherwydd ei thraddodiad o gyfuno creadigrwydd â chanolbwyntio ar greu, ei phortffolio ymchwil, calibr ei staff a'i lleoliad unigryw.