Ewch i’r prif gynnwys

Treialu triniaeth newydd posibl ar gyfer diabetes math 1

23 Mai 2019

Child having their glucose levels tested

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac Abertawe yn cynnal treial newydd i weld a allai meddyginiaeth sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer y cyflwr croen soriasis gael ei defnyddio hefyd i helpu pobl â diabetes math 1 i greu peth o’u hinswlin eu hunain.

Mae gan dros 300,000 o bobl yn y DU ddiabetes math 1 ac nid yw’r cyffur a ddefnyddir i’w drin – inswlin – wedi newid mewn 98 mlynedd.  

Mae diabetes math 1 yn effeithio ar blant ac oedolion ill dau, sy’n gallu dechrau mor gynnar â 6 mis oed. Mae’r cyflwr yn wahanol i’r math o diabetes sy’n gysylltiedig â gordewdra, sy’n gyffredin ymysg oedolion, ac sy’n cael ei achosi gan y system imiwnedd yn dinistrio celloedd y pancreas sy’n creu inswlin. Heb inswlin, nid yw’r corff yn gallu rheoli glwcos yn y gwaed. Mae hyn yn arwain at lefelau uchel o glwcos sy’n gallu achosi niwed i’r galon, y llygaid, y traed a’r arennau.

Mae’r cyffur a ddefnyddir yn y treial, ustekinumab, yn cael ei roi mewn chwistrelliad bob 1-2 mis ac yn lleihau gallu’r system imiwnedd i ddifrodi’r celloedd sy’n creu inswlin. Mae eisoes wedi’i drwyddedu i drin soriasis, lle mae’r system imiwnedd yn ymosod ar gelloedd y croen, ac ymddengys fel pe bai’n ddiogel iawn.  

Dywedodd yr Athro Colin Dayan o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Yng nghamau cynnar diabetes math 1, gallai tua 20% o gelloedd sy’n creu inswlin barhau i weithio. Rydym yn cynnig cyfle i gleifion sydd newydd gael diagnosis i arbed rhai o’r celloedd hyn, o bosibl, a’i wneud yn haws iddynt reoli lefelau glwcos y gwaed. Gallai hyn hefyd leihau’r risg o gymhlethdodau.”  

Mae’r treial yn agored i bobl rhwng 12 a 18 oed sydd o fewn 100 diwrnod o gael diagnosis o ddiabetes math 1. Rhoddir y cyffur neu’r plasebo i’r rhai sy’n cymryd rhan dros gyfnod o flwyddyn.

Meddai’r Athro John Gregory, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Dim ond cyfran fach o bobl sydd â diabetes sydd â’r rheolaeth ddelfrydol rydym yn gwybod sy’n lleihau eu risg o gymhlethdodau. Gallai’r cyffur rydym yn ei brofi helpu rhai pobl i lwyddo cynnal y rheolaeth hyn a gwella ansawdd eu bywydau yn sylweddol.”

Gorffennodd yr Athro Colin Dayan trwy ddweud: “Gyda lwc, ar ddiwedd yr astudiaeth hon, bydd gennym ryw fath o syniad p’un a fod pobl yn gallu goddef y cyffur hwn yn dda a ph’un a yw’n dal gafael ar yr inswlin.”  

Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe sy’n cynnal yr astudiaeth hon. Y Sefydliad Effeithlonrwydd Ymchwil Iechyd Cenedlaethol a’r rhaglen Gwerthuso Mecanwaith (NIHR EME) sy’n ei hariannu. Mae astudiaeth debyg yn cael ei chynnal ymysg oedolion yng Nghanada.

Mae’r ysbytai sy’n cymryd rhan hyd yn hyn yn cynnwys:

  • Ysbyty Athrofaol Cymru, CAERDYDD
  • Ysbyty Plant Cymru Arch Noa, CAERDYDD
  • Ysbyty Plant Tayside, DUNDEE
  • Ysbyty Brenhinol Dyfnaint a Chaerwysg, CAERWYSG
  • Ysbyty Plant Brenhinol Aberdeen, ABERDEEN
  • Ysbyty Treforys, ABERTAWE
  • Ysbyty Brenhinol Caerlŷr, CAERLŶR
  • Ysbyty St George, LLUNDAIN

I gael rhagor o wybodaeth am dreial USTEKID, ewch i: https://www.type1diabetesresearch.org.uk/current-trials/ 

Ariennir y prosiect gan y Rhaglen Gwerthuso Effeithiolrwydd a Mecanwaith (EME), sy’n bartneriaeth rhwng y Cyngor Ymchwil Meddygol a’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.

Rhannu’r stori hon

Mae’r Ysgol yn ganolfan ryngwladol bwysig ar gyfer addysgu ac ymchwil, sy’n ymrwymo i wella iechyd y ddynoliaeth.