Ewch i’r prif gynnwys

Y gorau yng Nghymru

21 Mai 2019

Mae Ysgol y Gymraeg wedi cadarnhau ei lle fel un o adrannau Astudiaethau Celtaidd mwyaf blaenllaw y DU yn The Complete University Guide 2020.

Cododd yr Ysgol i’r brig yng Nghymru ac i’r pedwerydd safle yn y DU ar gyfer Astudiaethau Celtaidd. Dyma gynnydd o’r pumed safle yn nhablau’r llynedd.

“Mae’n dda iawn gen i weld y tabl hwn yn cydnabod eon rhagoriaeth o ran dysgu ac ymchwil a hefyd o ran llwyddiant ein graddedigion yn y farchnad waith. Mae’n adlewyrchu gwaith caled y staff a’r myfyrwyr fel ei gilydd – mae’n amser ardderchog ar gyfer astudio’r Gymraeg yma ym Mhrifysol Caerdydd.”

Dr Dylan Foster Evans Pennaeth yr Ysgol

Mae’r canlyniad hwn yn cyd-fynd ag asesiadau eraill o ansawdd Ysgol y Gymraeg. Yn nhablau’r Times and Sunday Times Good University Guide 2019, mae’r Ysgol yn y trydydd safle ar gyfer Astudiaethau Celtaidd.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.