Ewch i’r prif gynnwys

Aeddfedrwydd Digidol Cymru

13 Medi 2018

Digital maturity

Bydd defnydd o fand eang ymhlith busnesau ledled Cymru yn cael ei feincnodi yn erbyn eraill o ganlyniad i brosiect dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Arolwg Aeddfedrwydd Digidol i Gymru 2018, y trydydd arolwg blynyddol yn y wlad, yn mesur effaith band eang ar berfformiad busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru.

Mae'r arolwg yn mesur i ba raddau mae BBaChau yng Nghymru yn defnyddio technolegau fel cyfrifiadura cwmwl, offer e-fasnach, a fideo-gynadledda yn eu busnesau.

Drwy gwblhau'r arolwg, byd BBaChau yn helpu'r tîm o Ysgol Busnes Caerdydd i greu darlun o'r economi ddigidol sy'n datblygu.

Yn gyfnewid am hyn, bydd BBaChau yn cael sgôr aeddfedrwydd digidol a gwybodaeth am sut maen nhw'n cymharu ag eraill yng Nghymru.

Dywedodd Dr Dylan Henderson, Uwch-gymrawd Ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae Cymru, fel y rhan fwyaf o wledydd eraill, yn mynd drwy gyfnod o drawsnewid cyflym, ac mae technolegau digidol yn chwarae rhan ganolog ym myd busnes a'r gymdeithas.

“Mae tystiolaeth o Arolygon Aeddfedrwydd Digidol blaenorol yn dweud wrthym bod 50% o BBaChau wedi defnyddio band eang cyflym iawn i gynyddu eu helw, a bod nifer debyg, tua 48%, wedi'i ddefnyddio i gynyddu gwerthiannau.

Bydd y data a gynhyrchwyd hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i gefnogi twf BBaChau a'r economi ddigidol yng Nghymru.

Caiff yr astudiaeth ei chynnal gan Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Busnes Caerdydd, a chaiff ei hariannu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Cwblhewch yr arolwg nawr.

Rhannu’r stori hon

We are a world-leading, research intensive business and management school with a proven track record of excellence.