Ewch i’r prif gynnwys

Cynnydd mewn defnydd o e-sigaréts heb wneud i bobl ifanc feddwl bod ysmygu yn ‘normal’

2 Ebrill 2019

E-cigarettes

Mae astudiaeth a arweiniwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi darganfod bod barn pobl ifanc am ysmygu wedi parhau i fod yn fwy negyddol ers cyflwyno e-sigaréts.

Roedd y dadansoddiad, a gynhaliwyd mewn cydweithrediad ag academyddion o Gaeredin, Stirling, Glasgow a Bryste, yn canolbwyntio ar dri arolwg cenedlaethol sy’n cynnwys barn 248,324 o bobl ifanc rhwng 13 a 15 mlwydd oed. Roedd pobl o Gymru, Lloegr a’r Alban yn cymryd rhan.  
  
Roedd gostyngiad o 70% ym 1999 i 27% yn 2015 yng nghanran y bobl ifanc a ddywedodd bod rhoi cynnig ar ysmygu yn “OK”, gyda’r gyfradd yn gostwng yn gynt o 2011 ymlaen. Mae’r canran o bobl ifanc a ddywedodd eu bod wedi profi ysmygu wedi parhau i ostwng.

Rhwng 2011 a 2015, roedd cynnydd yn nifer y bobl a oedd wedi rhoi cynnig ar e-sigaréts, ar adeg pan nad oedd llawer o reoleiddo o ran eu defnydd.

Dywedodd arbenigwyr bod yr ymchwil, a gafodd ei hariannu gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR), yn awgrymu nad oedd pryderon bod e-sigaréts yn arwain at gynnydd yn nefnydd pobl ifanc o dybaco, yn wir.    

Dywedodd Dr Graham Moore, o'r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod y pryderon o ran cynnydd mewn poblogrwydd ysmygu tybaco ymysg pobl ifanc, o ganlyniad i’r cynnydd mewn defnydd o e-sigaréts, yn ddi-sail hyd yn hyn. Roedd agweddau negyddol tuag at ysmygu ymysg pobl ifanc yn parhau i gynyddu yn ystod cyfnod lle gwelsom gynnydd cyflym yn y defnydd o e-sigaréts.

“Mae natur e-sigaréts, a’r sefyllfa lle cânt eu gwerthu a’u defnyddio, yn parhau i newid yn gyson, ac mae angen i ni barhau i gadw llygad barcud ar sut mae pobl ifanc yn cael eu heffeithio. Fodd bynnag, mae’r astudiaeth yn dangos llwyddiant ymdrechion iechyd cyhoeddus i leihau ymysgu ymysg pobl ifanc yn yr 20 mlynedd diwethaf ac nid oes tystiolaeth bod e-sigaréts yn faen tramgwydd i hyn.”

Mae arbrofi ag e-sigaréts yn dod yn fwyfwy poblogaidd ymysg pobl ifanc sydd heb ddefnyddio tybaco yn y gorffennol, er bod defnydd rheolaidd o e-sigaréts ymhlith pobl ifanc yn parhau yn anghyffredin. Mae cyfraddau ysmygu ymysg pobl ifanc yn parhau i ostwng.

Ychwanegodd yr Athro Linda Bauld, o Brifysgol Caeredin: “Roedd pobl ifanc ledled Prydain yn profi e-sigaréts yn ystod y cyfnod pan nad oedd rheoliadau arnynt, ac mae data diweddar yn awgrymu bod y tueddiadau hyn wedi parhau hyd heddiw. Ond mae canfyddiadau’r astudiaeth yn dangos, serch hynny, bod ysmygu tybaco ymysg yr ifanc wedi parhau i ostwng. Yn amlwg, mae angen data ar gyfer y tymor hirach i asesu effeithiau'r defnydd o e-sigaréts ymysg pobl ifanc. Bydd camau nesaf yr astudiaeth hon ac ymchwil barhaus arall yn cynnig mwy o wybodaeth i ni yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Martin White, Cyfarwyddwr Rhaglen Ymchwil Iechyd Cyhoeddus NIHR, a ariannodd yr astudiaeth: “Mae’r astudiaeth hon yn cynnig dealltwriaeth bwysig o agweddau pobl ifanc tuag at ysmygu ar adeg pan mae llai ohonynt yn ysmygu yn ôl pob golwg, er bod e-sigaréts ar dwf.

“Fodd bynnag, mae ysmygu yn parhau i fod yn un o brif achosion salwch a marwolaeth yn y DU. Mae hyn yn dangos yn glir bod angen rhagor o ymchwil yn y maes hwn er mwyn llywio ymyriadau i atal pobl ifanc rhag dechrau ysmygu neu roi’r gorau ysmygu. Bydd hyn yn gwella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau anghydraddoldebau iechyd.”

Cyhoeddwyd yr ymchwil, â'r teitl, Have e-cigarettes renormalized or displaced youth smoking? Results of a segmented regression analysis of repeated cross sectional survey data in England, Scotland and Wales, yn Tobacco Control.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.